Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

19/05/2024

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Yn y rhaglen hon mae Ffion yn cael cwmni y trwmpedwr Tomos Williams i drafod ei gywaith cerddorol rhyngwladol sydd yn cyffwrdd ar hanes a hunaniaeth Cymru a'r perfformiadau sydd ar y gweill ganddo yn ystod yr wythnosau nesaf.

Elinor Gwynn sy'n ymweld ag arddangosfa o waith yr artist o Lanfairfechan, Huw Jones, a hynny yn Oriel Storiel ym Mangor.

Argraffiadau yr actor a'r cynhyrchydd Ffion Glyn o ddrama NT Live - 'Nye'.

Iola Ynyr a Carys Gwilym sy'n taro mewn i'r stiwdio i sgwrsio am sioe un ddynes 'Ffenast Siop' mae'r ddwy'n cyd-weithio arni ar hyn o bryd, sydd yn ymdrin â'r menopos. Ac er mwyn trafod pa mor bwysig yw hi i'r celfyddydau drafod pynciau anodd fel y menopos mae'r actores Angharad Llwyd a'r bardd Mari Ellis Dunning yn ymuno yn y drafodaeth.

Heledd Cynwal sy'n cael cwmni Cat Gardiner i sgwrsio am arddangosfa gwaith y ffotograffydd Jon Pountney yn Oriel 10, Caerdydd.

Digon o drafod difyr yn ystod y ddwy awr a digon o gerddoriaeth hefyd sydd yn adlewyrchu bwrlwm y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 19 Mai 2024 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Angharad Rhiannon

    Laru

  • Mari Mathias

    Helo

    • Ysbryd y TÅ·.
  • Adwaith

    Mwy

    • Libertino.
  • Mared

    Nosi

    • Better Late Than Never.
  • Catrin Finch & Aoife Ni Brihain

    Catrin Finch + Aoife Ni Bhriain - Why

  • Pys Melyn

    Bolmynydd

    • cofnodion skiwhiff.
  • Candelas

    Llwytha'r Gwn (feat. Alys Williams)

    • BODOLI'N DDISTAW.
    • I KA CHING.
    • 6.

Darllediad

  • Sul 19 Mai 2024 14:00