Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

Effaith toriadau ar gyrff celfyddydol Cymru

Sgyrsiau'n cynnwys effaith toriadau, gwasg '3TimesRebel' a chynhyrchiad Cwmni Opera Canolbarth Cymru o Macbeth. A look at the arts scene in Wales and beyond.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn cael cwmni Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru i drafod effaith y toriadau diweddar ar gyrff celfyddydol ar hyd a lled Cymru.

Cawn ymweld ag 'Arddangosfa Cyfoes - Celf Cymru Heddiw' yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yng nghwmni Heledd Wyn a Mari Elin Jones, tra bod y canwr John Ieuan Jones yn sgwrsio am gynhyrchiad Macbeth gan Gwmni Opera Canolbarth Cymru.

Yn ogystal â hyn mae Elinor Gwynn yn trafod arddangosfa newydd sydd yn ymwneud â hanes Tŷ'r Congo ym Mae Colwyn. Mae'r adolygydd theatr Branwen Cennard yn pwyso a mesur sioe gerdd newydd o'r enw 'Turning the Wheel' gafodd ei llwyfannu'n ddiweddar yn Theatr y Parc a'r Dâr yn Nhreorci.

Ac i gloi, mae Sian Northey a Sue Walton yn sgwsio am wasg '3TimesRebel' sydd ond yn cyhoeddi cyfieithiadau o lyfrau wedi’u sgrifennu’n wreiddiol mewn ieithoedd lleiafrifol gan fenywod a hynny yn sgil cyhoeddi cyfieithiad Saesneg Susan Walton o nofel Gymraeg Sian Northey, 'Yn y Tŷ Hwn'.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 17 Maw 2024 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Carwyn Ellis & Rio 18 & Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y ±«Óãtv

    Lawr Yn Y Ddinas Fawr

  • Cowbois Rhos Botwnnog

    Adenydd

    • Mynd â'r TÅ· am Dro.
    • SBRIGYN YMBORTH.
  • Pedair

    Y Môr

    • Recordiau Sain.
  • Banda Bacana

    Danza Negra

    • Banda Bacana.
  • The Gentle Good

    Llosgi Pontydd

    • Tethered For The Storm.
    • GWYMON.
    • 7.

Darllediad

  • Sul 17 Maw 2024 14:00