Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

'Ie Ie Ie' Theatr Genedlaethol Cymru a Sinfonia Cymru

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt:

Mae Ffion yn cael cwmni'r darlithydd gwleidyddol Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth sy'n sgwrsio am arddangosfa arbennig yn Oriel Carn, Caernarfon yn dangos sut mae gwahanol leoliadau yn dehongli annibyniaeth.

Arddangosfa arbennig gan artistiaid newydd yn y byd celf gweledol yn Oriel Gwyn, Aberaeron sy'n mynd â sylw Mari Grug.

Mae'r cerddor a'r cyfansoddwr Sioned Webb yn adolygu cyngherddau Sinfonia Cymru sydd wedi bod yn teithio yn ystod yr wythnos gyda Cerys Hafana a Patrick Rimes, tra bod Mari Izzard yn sgwrsio am ei drama newydd 'Yr Arallfyd' sydd yn rhan o brosiect 'Tirweddau Iaith' yn Theatr y Sherman, Caerdydd.

Mae'r bardd a'r llenor Iestyn Tyne yn sgwrsio o Å´yl Lenyddol Mathrubhumi yn yr India, ac mae'r cynhyrchydd theatrig Geinor Styles yn trin a thrafod 'Ie Ie Ie', sef cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru sydd ar daith ar hyn o bryd.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 11 Chwef 2024 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Morgan Elwy

    Gyrru Ar Y Ffordd

  • Elegy to Brahms, Hubert Parry & ±«Óãtv National Orchestra of Wales

    Elegy to Brahms - Hubert Parry - ±«Óãtv NOW

  • Ffenest

    Rhywbeth Arall

    • Recordiau Cae Gwyn Records.
  • Celt

    Modd i Fyw

    • Howget.
  • Georgia Ruth

    Sylvia

    • Fossil Scale.
    • Navigator Records.
  • Pys Melyn

    Bolmynydd

    • cofnodion skiwhiff.

Darllediad

  • Sul 11 Chwef 2024 14:00