Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

E-lyfr 'Un Nos Ola Leuad' a'r ddrama 'Dinas'

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Yn y rhaglen yma mae Ffion yn cael cwmni'r cerddorion amryddawn Angharad Jenkins a Patrick Rimes ar drothwy lansio ei halbwm newydd 'Amrwd', tra bod John Ogwen a Maureen Rhys yn sgwrsio am gynhyrchu e-lyfr nofel Caradog Prichard, 'Un Nos Ola Leuad', sydd hefyd yn cael ei lawnsio yn Eisteddfod LlÅ·n ac Eifionydd yr wythnos nesaf.

Mae Ffion yn ymweld ag oriel 'Lle Art Carys Bryn', yn Y Ffôr, ger Chwilog, ac yn cwrdd ag artist ifanc o'r ardal, Iwan Lloyd Roberts yn ogystal ag ymweliad â Theatr Clwyd wrth i'r actores Leah Gaffey baratoi tuag at berfformio addasiad Branwen Davies o'r ddrama 'Fleabag' yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ac mae cwmni Theatr Bara Caws hwythau yn brysur hefyd yn paratoi tuag eu cynhyrchiad o ddrama gan Wil Sam ac Emyr Humphreys - 'Dinas' , a hynny yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ac yn ogystal â'r sgyrsiau difyr yma mae digon o gerddoriaeth newydd yn eich disgwyl hefyd!

Codau Amser

00:07:00 Cast Theatr Bara Caws

00:26:56 Iwan Lloyd Roberts yn Lle Art Carys Bryn

00:41:34 Llyfr y Flwyddyn gyda Bethan Mair a Siwan Rosser

01:00:08 CD Newydd Angharad Jenkins a Patrick Rimes

01:22:39 John Ogwen, Maureen Rhys a Mari Prichard yn trafod e-lyfr 'Un Nos Ola Leuad'

01:37:25 'Fleabag' gyda Leah Gaffey, Sara Lloyd a Branwen Davies

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 30 Gorff 2023 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Gai Toms & Pen LlÅ·n

    Gai Toms - Pen LlÅ·n

    • Baiaia.
  • Meinir Gwilym

    Goriad

    • GWYNFRYN CYMUNEDOL.
  • Angharad Jenkins, Patrick Rimes & Gyrru yr Ychen

    Gyrru yr Ychen - Angharad Jenkins a Patrick Rimes

  • Angharad Jenkins, Patrick Rimes & Nant y Mynydd

    Nant y Mynydd - Angharad Jenkins a Patrick Rimes

Darllediad

  • Sul 30 Gorff 2023 14:00