Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

Brexit a Rhinweddau Arweinydd Da

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Brexit a rhinweddau arweinydd da. Vaughan Roderick and guests discuss Brexit and the virtues of a good leaader.

Ar y diwrnod pan yr oedd gwledydd Prydain i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Aelodau Seneddol yn paratoi i bleidleisio eto ar ran o gytundeb Brexit Theresa May. Ar y naill law, mae Llefarydd Tŷ'r Cyffredin wedi caniatáu'r bleidlais, ar sail ei bod hi'n wahanol i rai blaenorol; ar y llaw arall, mae nifer yn bryderus y byddai pleidlais o blaid yn ormod o fenter.

Yng nghanol hyn i gyd, mae Theresa May yn dal yn Brif Weinidog, ac wedi'r saethu yn Christchurch mae sawl cymhariaeth wedi'i gwneud â Phrif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern. Dyma holi, felly, beth yw rhinweddau arweinydd da.

Harri Lloyd Davies, Heledd Bebb a Cai Wilshaw sy'n ymuno â Vaughan Roderick.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 29 Maw 2019 12:00

Darllediad

  • Gwen 29 Maw 2019 12:00

Podlediad