Main content

Heddwch

Cyfres am Gymry'r Rhyfel Mawr, gan roi pwyslais yn y rhaglen hon ar ddiwedd y gwrthdaro. First hand accounts from those who experienced the end of the First World War.

Yn y rhaglen hon, mae Siân Sutton yn rhoi pwyslais ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a barodd dros bedair blynedd.

Clywn am y llawenydd a'r rhyddhad, ond hefyd am rai a fyddai'n byw hyd ddiwedd eu hoes yng nghysgod y gwrthdaro.

Wrth i rai ddathlu'r cadoediad, roedd Harriet Anne Pritchard yn ei chartref yn Rhuthun yn dygymod â cholli gŵr, ac yn wynebu magu eu plentyn cyntaf ar ei phen ei hun.

Cafodd Bill Pritchard ei eni fis ar ôl i William Griffith Pritchard gael ei ladd ym Mrwydr Cambrai, ac er na welodd ei dad erioed, roedd yn bresenoldeb cyson drwy'i fywyd. Siaradodd ei fam amdano'n aml, ac i Bill roedd yn rhywun i'w efelychu.

Ar gael nawr

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 16 Tach 2018 12:30

Darllediad

  • Gwen 16 Tach 2018 12:30

Dan sylw yn...