Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

Llywodraeth Leol a'r Rhyfel Mawr

Trafodaeth ar gymharu cynghorwyr gydag Oliver Twist, yn ogystal â gwersi'r Rhyfel Mawr. Did Alun Davies take things too far when he compared Welsh councillors to Oliver Twist?

Ar ôl i'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies, gymharu cynghorwyr yn gofyn am ragor o arian gyda chymeriad Oliver Twist, dyma drafod priodoldeb ei sylwadau. Yn ôl Mr. Davies, mae angen iddyn nhw roi'r gorau i gwyno. Mae'r cynghorau, ar y llaw arall, yn rhybuddio am filoedd o ddiswyddiadau posib yn y blynyddoedd nesaf. Os na all Llywodraeth Cymru helpu, beth yw'r ateb?

Mae Vaughan Roderick a'i westeion hefyd yn trafod canrif ers diwedd y Rhyfel Mawr, a beth yw'r gwersi sydd wedi'u dysgu.

Huw Thomas, Aled Eirug ac Elinor Wyn Reynolds sy'n ymuno â Vaughan.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 26 Hyd 2018 12:00

Darllediad

  • Gwen 26 Hyd 2018 12:00

Podlediad