Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cyllid Awdurdodau Lleol ac Iechyd Meddwl

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod cyllid awdurdodau lleol ac iechyd meddwl. Vaughan Roderick and guests discuss funding for local government and mental health.

Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi faint o gyllid y bydd pob awdurdod lleol yn ei dderbyn y flwyddyn nesaf, sy'n cyfateb i lai o arian ac ystyried chwyddiant, dyma bwyso a mesur y goblygiadau i'r cynghorau a'u gwasanaethau. Mae Alun Davies o'r Llywodraeth yn dadlau mai dyma'r setliad gorau posib o dan yr amgylchiadau ariannol presennol, ond nid yn annisgwyl mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n eithriadol o siomedig.

Mae Vaughan Roderick a'i westeion hefyd yn trafod iechyd meddwl, wedi i Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd arwain at gwestiynau pellach am y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i helpu pobl yng Nghymru.

Dr. Elin Jones, y Cynghorydd Gareth Jones a Dr. Felix Aubel sy'n ymuno â Vaughan.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 12 Hyd 2018 12:00

Darllediad

  • Gwen 12 Hyd 2018 12:00

Podlediad