Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

Brexit

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Brexit, ychydig ddyddiau wedi'r hysbysiad ffurfiol y bydd Prydain yn gadael. Vaughan and guests discuss the triggering of Article 50.

Ychydig ddyddiau wedi i Theresa May hysbysu'r Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol y bydd Prydain yn gadael, dyma holi panelwyr O'r Bae sut maen nhw'n rhagweld y bydd trafodaethau Brexit yn datblygu. A fydd hi'n llwybr anodd, yn enwedig o ddarllen geiriau digon bygythiol am ddiogelwch o fewn llythyr y Prif Weinidog?

Mae Vaughan Roderick yn gofyn hefyd a ydi'r hollt gymdeithasol yn sgîl pleidlais Brexit yn debygol o barhau? Ac a ydi gwleidyddiaeth wedi newid am byth, gyda'r pleidiau o hyn ymlaen yn cael eu gwahaniaethu ar sail eu safbwynt ar adael neu aros?

A chan newid cywair yn llwyr, beth yw barn y panelwyr ar datŵs? Maen nhw'n dod yn fwy ffasiynol, yn ôl pob golwg, yn enwedig rhai Lladin.

Elin Haf Gruffydd Jones, Ian Gill a Mared Ifan sy'n ymuno â Vaughan.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 31 Maw 2017 12:00

Darllediad

  • Gwen 31 Maw 2017 12:00

Podlediad