Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

Isetholiadau Stoke-on-Trent a Copeland

Vaughan Roderick a'i westeion yn asesu isetholiadau Stoke-on-Trent a Copeland. Vaughan Roderick and guests assess the Stoke-on-Trent and Copeland byelections.

Ddiwrnod wedi isetholiadau yn Copeland a Stoke-on-Trent, mae Vaughan Roderick a'i westeion yn asesu'r canlyniadau a'r ymateb. Beth mae buddugoliaeth y Ceidwadwyr yn y naill a Llafur yn y llall yn ei ddweud am y sefyllfa wleidyddol sydd ohoni?

Trafodaeth hefyd ar ddyfarniad y Goruchaf Lys fod yn rhaid i Brydeinwyr ennill dros £18,600 cyn medru gwneud cais am i bartner o dramor gael dod yma i fyw. Pa mor deg yw'r rheol hon?

Ac wrth i ffuglen wleidyddol ddod yn fwy poblogaidd, beth yw'r berthynas rhwng ffuglen a gwleidyddiaeth?

Branwen Cennard, Lleu Williams a Stefan Ryszewski sy'n ymuno â Vaughan Roderick.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 24 Chwef 2017 12:00

Darllediad

  • Gwen 24 Chwef 2017 12:00

Podlediad