Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gwleidyddion yn Pleidleisio

Sut y dylai gwleidyddion bleidleisio - yn bleidiol, neu yn reddfol? Vaughan Roderick a'i westeion sy'n trafod. Vaughan Roderick and guests discuss how politicans should vote.

Roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus iawn i Theresa May. Fe bleidleisiodd mwyafrif o 384 Aelod Seneddol o blaid trafodaethau ffurfiol ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ond roedd rhai gwleidyddion yn gadarn eu safbwynt na ddylai Mrs May gael sêl bendith Tŷ'r Cyffredin. Dyma ofyn, felly, sut y dylai Aelodau Seneddol a gwleidyddion eraill bleidleisio - yn bleidiol, neu yn reddfol?

Nid Brexit oedd yr unig enghraifft o wahaniaeth barn yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos hon. Roedd 'na ddadlau ynglŷn â morlyn Bae Abertawe hefyd, felly a fydd y cynllun yn dwyn ffrwyth?

Hefyd, ymateb y panel i sylwadau Julian Fellowes y byddai unrhyw beth ond cast o bobl wyn yn unig yn anrealistig mewn sioe gerdd fel Half a Sixpence sydd wedi'i lleoli mewn tref glan môr yn 1900.

Melanie Carmen, Haf Elgar a Simon Thomas sy'n ymuno â Vaughan Roderick.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 3 Chwef 2017 12:00

Darllediad

  • Gwen 3 Chwef 2017 12:00

Podlediad