Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

PISA ac Isetholiadau

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod canlyniadau profion addysg rhyngwladol PISA, ac effaith Brexit ar isetholiadau. Vaughan Roderick and guests discuss PISA and by-elections.

Wedi canlyniadau siomedig unwaith eto i Gymru ym mhrofion addysg rhyngwladol PISA, beth mewn difrif mae'r profion yma'n ei ddweud am system addysg y wlad?

Democrat Rhyddfrydol sydd bellach yn cynrychioli Richmond Park yn Nhŷ'r Cyffredin wedi isetholiad yno, ac mae nifer o'r farn ei bod hi'n bleidlais yn ymwneud â Brexit. Os hynny, a oes rhagor o newidiadau mawr yn debygol yn y dyfodol agos?

Hefyd, i ba raddau mae pobl yn cofio David Lloyd George ganrif ar ôl i'r Cymro Cymraeg ddod yn brif weinidog? Ac ai llwyddiant neu fethiant oedd o mewn gwirionedd?

Liz Saville Roberts, Dr Carol Bell a Siân James sy'n ymuno â Vaughan Roderick.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 9 Rhag 2016 12:05

Darllediad

  • Gwen 9 Rhag 2016 12:05

Podlediad