Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ±«Óãtv iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gadael Plaid ac Etholiad America

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod pa mor foesol yw gadael plaid wleidyddol, a'r diweddaraf am etholiad America. Political discussion with Vaughan Roderick and guests.

Wythnos wedi i Dafydd Elis-Thomas gyhoeddi ei fod yn ffarwelio â grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad ond yn parhau i gynrychioli etholaeth Dwyfor Meirionnydd fel aelod annibynnol, Vaughan Roderick a'i westeion sy'n trafod pa mor foesol yw gadael plaid wleidyddol.

Mae'r ras rhwng Hillary Clinton a Donald Trump yn tynnu tua'i therfyn gyda'r naill yn cyhuddo'r llall o ddifrïo democratiaeth ar ôl iddo wrthod cadarnhau y bydd yn derbyn canlyniad yr etholiad os nad yw'n ennill. Gyda'r dadleuon teledu hollbwysig bellach ar ben, ai'r Democrat neu'r Gweriniaethwr sy'n debygol o fynd â hi ar yr 8fed o Dachwedd?

A beth mae hanner canrif ers trychineb Aberfan yn ei olygu i'r to iau?

Dr Tomos Dafydd, y Farwnes Eluned Morgan a Luned Whelan sy'n ymuno â Vaughan.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 21 Hyd 2016 12:04

Darllediad

  • Gwen 21 Hyd 2016 12:04

Podlediad