Main content

Ymarferion Agored Cwrdd â Cherddoriaeth

Beth sydd ar y gweill?

- Caerdydd: 5 mis Tachwedd 2024, 13 mis Chwefror 2025, 13 mis Mai 2025
- Cofrestrwch nawr -


Mae Ymarferion Agored yn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ysgolion uwchradd ar waith paratoi’r gerddorfa, yr arweinydd a’r unawdwyr ar gyfer perfformiad cyhoeddus. Gwyliwch y broses greadigol a chlywed cerddoriaeth wych yn dod at ei gilydd cyn cyngerdd. Argymhelliad oedran: 14 oed a throsodd, neu fyfyrwyr sy’n astudio cerddoriaeth ddewisol.

Sylwch nad perfformiadau yw Ymarferion Agored. Bydd angen bod mor ddistaw â phosibl ac efallai bydd oedi ar wahanol adegau yn ystod yr ymarfer, er mwyn i’r arweinydd, yr unawdydd a’r gerddorfa gytuno ar arddulliau a dynameg penodol. Sylwch hefyd na fyddwch yn gallu gadael ar ôl i’r sesiwn ddechrau gan y bydd yn tarfu ar yr ymarfer. Yr amseroedd gorffen yw dechrau’r amseroedd egwyl i’r gerddorfa. Gall y disgyblion esgusodi eu hunain yn dawel yn unigol neu mewn parau, i fynd i’r toiled yn ôl yr angen.

Bydd yr amseroedd a’r repertoire sy’n cael ei ymarfer yn cael eu cadarnhau cyn dyddiad yr ymarfer, oherwydd fe allai’r amserlenni hyn newid. Mae’r tocynnau’n brin iawn gan mai gofod ymarfer byw yw hwn. Uchafswm o 30 myfyriwr o bob ysgol ynghyd ag athro/athrawon.

Dewch i weld calon y gerddorfa yn y profiad unigryw hwn y tu ôl i’r llenni!