Main content

Cofrestru ar gyfer y Parti Gwylio i Ysgolion

BANT Â NI!

Rydyn ni’n chwilio am Ofodwyr Cerddorol! Ydych chi’n barod i fynd am dro mewn roced, dawnsio ymysg y sêr, a cherdded ar y Lleuad? Os felly, rhowch eich gwregys diogelwch ymlaen ac ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y ±«Óãtv wrth iddyn nhw fynd ar daith gerddorol hudolus i’r gofod.

Dyma’ch cyfle chi i ddathlu camau cyntaf Neil Armstrong ar y Lleuad! I gyfeiliant cerddoriaeth anhygoel, gan gynnwys Fanfare for the Common Man gan Aaron Copland, Thema Ron Grainer o Doctor Who, ac Earth gan Hans Zimmer. Mwynhewch yr antur gerddorfaol gyffrous a rhyngweithiol hon.

Ymunwch â ni ar gyfer ein Parti Gwylio Digidol! Cofrestrwch yma:

Bydd y gyngerdd a’r adnoddau’n Saesneg.