±«Óãtv

Cymro'r Congo - Henry Morton Stanley

top
Stanley a'i gyfeillion yn Monterey, California 1891

Hanes Henry Morton Stanley, yr Anturiaethwr o Ddinbych, a ddechreuodd ei fywyd mewn tloty ond a enillodd enwogrwydd byd-eang fel y dyn wnaeth ddod o hyd i Dr David Livingstone.

Erbyn hyn, mae'n ffigwr dadleuol a phan godwyd cerflun iddo yn ei dref enedigol cafwyd gwrthwynebiad gan rai oedd yn dweud fod Stanley yn impieralydd oedd yn euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth, ac o gynorthwyo coloneiddio a chaethwasiaeth yn Affrica.

Lynn Ebenezer sy'n dweud ei stori:

O'r Tloty i Efrog Newydd

Henry Morton Stanley
Henry Morton Stanley

Mae'n rhaid mai'r cyfarchiad syml hwnnw rhwng Henry Morton Stanley a Doctor Livingstone yn Hydref 1871 yw'r cyfarchiad enwocaf mewn hanes. Dim ond pedwar gair oedd y cyfarchiad, a'r geiriau hynny, o'u cyfieithu, oedd 'Doctor Livingstone, mi dybiaf!' Cymro a ynganodd y geiriau, un a ddaeth yn fyd-enwog ar sail ei sylw byr wedi iddo lwyddo i ddod o hyd i David Livingstone, un y tybid ei fod ar goll yng nghanolbarth Affrica, yn fyw ac yn iach.

Ganwyd Stanley yn blentyn siawns yn Ninbych ar 28 Ionawr 1841 a'i fedyddio yn John Rowlands. Gwahanodd ei rieni dibriod a magwyd ef yn nhloty Llanelwy. Yn bymtheg oed, magodd ddigon o blwc i ddianc o'r tloty a chafodd waith ar long a hwyliai ar draws Môr Iwerydd rhwng Lerpwl a New Orleans.

Ar drywydd Livingstone

Dr David Livingstone
Dr David Livingstone

Newidiodd ei enw i Henry Morton Stanley ar ôl marsiandïwr a gyfarfu ac a fu'n garedig wrtho. Ymladdodd Stanley yn y Rhyfel Cartref yn America a llwyddodd i gael gwaith fel newyddiadurwr gyda'r New York Herald.

Mae'n debyg fod ganddo arddull newyddiadurol dda ac arbenigodd ar ysgrifennu fel gohebydd tramor gan ymweld â gwledydd yn Asia Leiaf ynghyd â Sbaen, Creta ac Abysinia.

Yna, yn 1869, derbyniodd her â'i gwnâi'n enwog ledled y byd. Roedd y teithiwr enwog David Livingstone ar grwydr yng nghanolbarth Affrica ac ofnid ei fod ar goll. Doedd neb wedi clywed gair oddi wrtho ers tro.

Breuddwyd fawr Livingstone oedd dod o hyd i wir darddiad afon Nîl, a chafodd Stanley yr her gan ei bapur newydd o fynd i chwilio am y chwiliwr.

Y Cyfarfod Enwog

Stanley a Swyddogion yr Advance Column, Cairo, 1890
Stanley a Swyddogion yr Advance Column, Cairo, 1890

Galwyd Stanley i Baris gan berchennog y papur, James Gordon Bennett, a'r gorchymyn syml iddo oedd dod o hyd i'r teithiwr mewn unrhyw ffordd a ddewisai, ond y dylai wneud hynny doed a ddelo.

Erbyn hyn, roedd llawer wedi derbyn y si fod Livingstone wedi marw ac yn dechrau colli diddordeb yn ei anturiaethau, ond gwyddai Bennett y gallai gael stori fawr pe deuid o hyd i'r teithiwr yn fyw. Glaniodd Stanley yn Zanzibar ym mis Ionawr 1871.

Erbyn 4 Chwefror roedd popeth yn barod a chychwynnodd y cwch - yn llawn nwyddau ac yn cario baner yr Unol Daleithiau - ar antur enbyd. Bu'r daith yn un anodd. Collwyd nwyddau a cheffylau a dioddefodd y criw o bob math o afiechydon.

Erbyn diwedd Hydref cyraeddasant ddyffryn Ujiji. O'u gweld yn nesáu, rhuthrodd cannoedd o'r trigolion i'w cyfarfod ac yn eu canol gwelodd Stanley ddyn mewn crys gwyn hir a thyrban o fath gorllewinol ar ei ben. Cyflwynodd hwnnw'i hun fel gwas David Livingstone.

Graffiti gan Stanley ym Mhersepolis, Iran
Graffiti gan Stanley ym Mhersepolis, Iran

Y Dyn Llwyd

Sylwodd Stanley ar ddyn llwydaidd ymhlith y dorf - roedd e'n farfog, yn gwisgo trowser llwyd a gwasgod a chanddo gap glas ac aur ar ei ben. Tynnodd Stanley ei het ymaith, ynganodd y geiriau chwedlonol a chafodd gadarnhad fod ei chwilio ar ben.

Ymhen wythnos gadawodd y ddau ddyn gyda'i gilydd i chwilio am darddiad afon Nîl. Methiant fu'r daith a dioddefodd Stanley o'r cryd. Er gwaetha'r ffaith ei fod yn awyddus i dorri'r stori fawr am ei lwyddiant yn dod o hyd i Livingstone, dewisodd Stanley oedi gyda'r teithiwr tan fis Mawrth 1872.

Ceisiodd berswadio Livingstone i ddychwelyd gydag ef ond na, roedd hwnnw'n benderfynol o ddod o hyd i Lyn Tanganyika a phrofi bod ei ddyfroedd yn llifo i'r Nîl.

Ysgrifennodd Livingstone nifer o lythyron gan ofyn i Stanley fynd â hwy yn ôl gydag ef a ffarweliodd y ddau â'i gilydd yn eu dagrau ar 14 Mawrth 1872. Trodd Stanley'n ôl am Zanzibar a threfnodd i ddanfon nwyddau a phethau eraill angenrheidiol at ei gyfaill.

Enwogrwydd Byd-eang

Cymerodd y daith 55 o ddyddiau iddo. Gwaith cyntaf Stanley oedd ffeilio'i stori i'r New York Herald. Derbyniodd frysneges oddi wrth berchennog y papur yn nodi ei fod ef, Stanley, bellach mor enwog â Livingstone bob tamaid. Diolchodd i'w ohebydd ar ei ran ei hun ac ar ran y byd.

Bu farw Livingstone yn Affrica ar 1 Mai 1873. Yno, mae'n debyg, y byddai wedi dewis gwneud hynny. Disgynnodd yn farw wrth iddo weddïo ar ei bennau gliniau ger ei wely.

Yn ôl arfer y brodorion tynnwyd ei galon o'i gorff a'i chladdu o dan goeden, ond cludwyd gweddill ei gorff yr holl ffordd yn ôl i Lundain a'i gladdu yn Abaty Westminster ar 18 Mai. Roedd Stanley yn un o'r archgludwyr.

h Stanley ymlaen i ysgrifennu llyfr am ei anturiaethau a derbyniodd Fedal Aur gan y Frenhines Fictoria am ei gamp a'i wrhydri. Dychwelodd i Affrica yn 1877 ac aeth ati i groesi'r cyfandir anferth gan ymweld ag Uganda, teithio o gwmpas llynnoedd Tanganyika a Fictoria a mynd ymlaen i ddilyn afon Congo.

Cristion y Congo

Stanley yn 1890
Stanley yn 1890

Yn 54 mlwydd oed, trodd Stanley at y byd gwleidyddol ac etholwyd ef yn Rhyddfrydwr Undebol dros Ogledd Lambeth yn Llundain. Bu farw ar 10 Mai 1904 yn Llundain, a'i ddymuniad olaf oedd cael ei gladdu yn agos at ei arwr, David Livingstone.

Gwrthodwyd ei gais gan y Deon a chladdwyd ef yn hytrach ym mynwent Pirbright. Yn arwynebol, felly, daeth Stanley yn arwr, ond dylid derbyn y disgrifiad gyda phinsiad o halen.

Adolygwyd enw da a hanes Stanley dros dreigl y blynyddoedd a gwelwyd iddo ddangos elfennau cwbl hiliol yn ei erthyglau a'i lyfrau. Byddai'n portreadu brodorion y gwledydd a deithiodd iddynt fel bodau is-ddynol a châi ei hanesion eu credu gan ddarllenwyr ledled y byd.

Dr Livingstone, mi dybiaf...?

Arwr Oes Fictoria

Yn wir, trodd llawer o'r Cristnogion a groesawyd yn wreiddiol fel brodyr gan y brodorion yn feistri arnynt. Er hyn, roedd Stanley yn genhadwr yn ogystal â theithiwr, ac fe gondemniodd y fasnach gaethweision yn llwyr, a hynny mewn cyfnod pan oedd llawer o bobl barchus yn elwa o'r fasnach afiach honno.

Ni ellir gwadu nad oedd hanes Henry Morton Stanley yn ffitio'n berffaith i'r syniad o arwr yn Oes Fictoria. Roedd yr holl elfennau angenrheidiol yn bresennol - bachgen amddifad yn dianc o dloty ac yn llwyddo i deithio'r byd gan fynd ati i ysgrifennu am ei brofiadau.

Daeth yn enwog ar sail pedwar gair, 'Doctor Livingstone, mi dybiaf!' ond beth fyddai hanes Stanley tybed petai hwnnw wedi troi ato a dweud, 'Nage wir, nid dyna pwy ydw i!'

Lyn Ebenezer


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.