±«Óãtv

Cysylltiadau Cymru ac Everest

top
Mynydd Everest

Ym mis Ionawr 2008, bu farw Syr Edmund Hillary yn 88 mlwydd oed, gan dorri cyswllt agos rhwng Cymru a'r mynydd uchaf yn y byd.

Eryri oedd man cychwyn yr ymgyrch lwyddiannus i ddringo Everest, gyda Hillary a gweddill y tîm dan arweiniad John Hunt - a oedd yn cynnwys Sherpa Tenzing a'r Cymro, Charles Evans, a oedd yn ddirprwy arweinydd - yn ymarfer yng Nghymru cyn y concwest mawreddog hwnnw ym mis Mai, 1953.

Tom Bourdillon, Edmund Hillary, John Hunt a Tenzing Norgay
Edmund HIllary a Tenzing Norgay gydag
arweinydd y criw, John Hunt, a Tom Bourdillon

Am chwe mis rhwng 1952 a 1953 ymgartrefodd y tîm yng Ngwesty Pen-y-Gwryd yng nghesail yr Wyddfa, a chynhaliwyd sawl dathliad yno dros y blynyddoedd canlynol.

Yn addurno'r waliau yn y bar ym Mhen-y-gwryd mae lluniau a chreiriau o'r daith i ben Everest ac ar y to yn un o'r 'stafelloedd mae llofnodion y dringwyr yn dyst o'u hymweliadau ag Eryri.

Roedd ei osgo heglog, hir yn ddigon cyfarwydd yn ein mynyddoedd, ac weithiau mi fyddai'n dringo'r Wyddfa efo Cymro lleol fu efo fo ar y cyrch enwog, y meddyg ymenydd Charles Evans, a ddaeth yn ddiweddarach, fel Syr Charles, yn bennaeth ar Brifysgol Bangor ... Roedd o'n gwbwl ddiddosbarth, a heb orchest na rhodres ... ac yn ystod y 50 mlynedd y bûm i yn ei nabod, ni welais mohono'n newid rhyw lawer.

Jan Morris am Edmund Hillary

Esgyniad Hillary o Seland Newydd (uchod ail o'r chwith) a Sherpa Tenzing Norgay o Nepal (uchod ar y dde) oedd un o uchafbwyntiau'r ganrif.

Gohebydd papur newydd y Times ar y daith oedd James Morris, sy'n fwy adnabyddus i ni heddiw fel yr awdures enwog o Lanystumdwy. Hi oedd yn gyfrifol am gyhoeddi i'r byd fod y criw wedi llwyddo i gyrraedd y copa am y tro cyntaf erioed.

Roedd merch perchennog gwesty Pen-y-gwryd, Jane Pullee, yn 10 oed pan glywodd fod Hillary a Tenzing wedi cyrraedd y copa.

Daeth hi a'i theulu yn gyfarwydd iawn â Hunt, Hillary, Tenzing a gweddill y criw aeth ar y daith fawr i goncro Everest.

Dywedodd mewn cyfweliad yn 2003, ar achlysur hanner can mlwyddiant yr orchest, bod ei theulu wedi bod ar bigau'r drain tra'n disgwyl am newyddion am hynt y daith wedi i dîm Hillary ymadael â Chymru.

"Am hanner nos, 1 Mehefin 1953, canodd y ffôn gyda'r Times yn galw i ddweud eu bod wedi cyflawni'r dasg," meddai.

"Cododd fy nhad bawb o'u gwelyau, gan ddweud y byddai'n eu lluchio allan os na fyddent yn codi!"

Gwesty Pen-y-gwryd yng nghesail yr Wyddfa
Cynhaliwyd sawl aduniad o'r daith i ben Everest
yng ngwesty Pen-y-gwryd dros y blynyddoedd

Cawsant siampên i ddathlu. Ynghyd â'r lluniau a'r dogfennau sy'n adrodd yr hanes yn y gwesty mae rhaff a ddefnyddiwyd gan Hillary a Tenzing, a'r gwpan haearn y buont yn yfed ohonni.

"Dyma gartref dringo ym Mhrydain - ffurfiwyd Clwb y Mynyddwyr yn y bar," meddai Ms Pullee.

Tra'n aros yn Eryri bu'r tîm yn profi'r cyfarpar dringo - yr esgidau a'r cyflenwad ocsigen - am dri mis.

Y cysylltiadau rhwng Cymru ac Everest

  • Enwyd y mynydd ar ôl y tirfesurydd George Everest o Grucywel yn Sir Fynwy.
  • Charles Bruce o Aberpennar oedd y dyn cyntaf i symbylu cais i ddringo'r mynydd ac ef oedd arweinydd cais Mallory ac Irvine yn 1922.
  • Cwm yw enw rhan orllewinol y mynydd fel teyrnged i gymoedd Eryri.
  • Roedd Irvine, partner Mallory, yn hannu o Gynwyd ger y Bala - mae ei gorff ar y mynydd byth.
  • Eric Jones o Dremadog oedd trydydd aelod y tîm a ddringodd Everest yn 1978, pan aeth Messner a Habler i'r brig heb ocsigen.
  • Caradog Jones oedd y Cymro cyntaf i gyrraedd y brig.

    Dirprwy arweinydd y tîm oedd Charles Evans, a drigai gerllaw yng Nghapel Curig. Llawfeddyg o Ddyffryn Clwyd oedd Syr Charles cyn iddo fynd yn bennaeth ar Brifysgol Cymru, Bangor.

    Bryd hynny, cafodd gyfnod dadleuol yn sgîl gwrthdaro ynglŷn â'r iaith Gymraeg a datblygiad y Coleg. Ond, yn 1953, fel un o brif ddringwyr y parti, bu bron iddo guro pawb i ben mynydd ucha'r byd pan gychwynnodd gyda'i bartner Tom Bourdillon ar yr ymgais gyntaf tuag at y copa fi s Mai 1953.

    Ond pan roedden nhw lai na chanllath o'r copa bu raid iddynt droi'n ôl oherwydd nam ar y cyfarpar ocsigen. Oni bai am hynny, Cymro fyddai wedi bod y cyntaf i'r copa!

    Ddeuddydd yn ddiweddarach cyrhaeddodd Hillary a Tenzing y brig, gan ennill y clod. Aeth Hillary ymlaen i greu ymddiriedolaeth i helpu pobl Nepal, ac adeiladwyd ysbytai, ysgolion a phontydd yno; gwnaed ef yn ddinesydd anrhydeddus yn Nepal yn 2003.

    Yn dilyn marwolaeth Hillary yn Ionawr 2008, dywedodd Ms Pullee eu bod wedi gostwng banner Seland Newydd a oedd yn chwifio uwch ben y gwesty fel arwydd o barch.

    Mae hi'n cofio Syr Hillary fel dyn arbennig a oedd yn credu mai sefydlu Ymddiriedolaeth yr Himalaya yn Nepal oedd ei gyflawniad mawr, nid dringo Everest. Daeth i Ben-y-gwryd am y tro olaf yn 1998.

    Cynhaliwyd aduniad ym Mhen-y-gwryd fis Mai 2008 i ddathlu 55 mlynedd ers yr esgyniad cyntaf i gopa Everest a 53 mlynedd ers y daith gyntaf i ben Kangchenjunga, trydydd mynydd ucha'r byd - dringfa anodd a chaled a gafodd ei harwain gan Charles Evans yn 1955.


    Cestyll

    Castell Dolbadarn

    Oriel Cestyll

    Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

    Crefydd

    Delw Cristnogol mewn carreg

    Oes y Seintiau

    Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

    Mudo

    Statue of Liberty

    Dros foroedd mawr

    Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

    Symbolau Cymru

    Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

    Hunaniaeth?

    Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

    ±«Óãtv iD

    Llywio drwy’r ±«Óãtv

    ±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.