±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Disgyblion Ysgol Gymuned Bryngwran Pentref Celtaidd
Mae pentref Celtaidd yn cael ei adeiladu yn Llanddeusant ar Ynys Môn. Alun Gruffydd o Gyngor Sir Ynys Môn sy'n egluro mwy am y prosiect.
"Mae Prosiect Tai Crynion, neu bentref Celtaidd Melin Llynnon, wedi ei leoli ar safle'r unig felin gwynt sydd yn gweithio yng Nghymru.

"Gydag arian Ewropeaidd, drwy ffynhonnell o'r enw Cyd Coed, rydym wedi cael yn agos at £250,000 er mwyn datblygu prosiect fydd yn gweld pentref Celtaidd yn cael ei adeiladu.

"Byddwn yn plannu coed ac yn rheoli coedwigoedd ar draws Ynys Môn ac yn defnyddio'r coed i adeiladu pentref fel atyniad ychwanegol ar safle'r felin.

"Mae'n bwysig ein bod yn tynnu ysgolion a grwpiau cymunedol a gwirfoddol i mewn fel rhan o'r prosiect.

"Mae'r arian wedi cael ei roi i'r cyngor cymuned ac rydym fel cyngor sir yn gweithio efo nhw er mwyn datblygu'r prosiect.

"Rydym yn dod ag ysgolion y dalgylch i mewn i helpu yn y broses o blannu'r coed a'u haddysgu ynglŷn â gweddill y prosiect.

"Erbyn tua mis Hydref bydd y safle yma wedi ei orffen ac fe fydd yn atyniad ychwanegol.

"O flaen y felin yn y cae bydd dau dÅ· crwn yn debyg i'r arddull oedd ganddynt yn yr oes efydd neu'r oes haearn. Coed wedi eu plannu

"Bydd y pentref yn y steil hwnnw - gyda dau dÅ· crwn a hen storfa rawn fel oedd ganddynt ers talwm i storio'r cnydau.

"Bydd hefyd un neu ddau o gysgodleodd er mwyn cael gwneud gweithgareddau addysgiadol.

"Un rhan ydi hynny ac mi fydd hi'n ddyletswydd arnom, unwaith bydd y peth wedi gorffen, i gynnal sesiynau ar y penwythnos ac i wneud defnydd o'r lle."



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý