±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Williams Parry Jones Himmler, Haw Haw a phêl-droed
O Heinrich Himmler i'r Arglwydd Haw Haw ac Alf Ramsay, roedd diwedd y rhyfel yn llawn cyffro i William Parry Jones o Lanrwst.

"Roeddwn i efo'r Royal Norfolk Regiment yn ystod y rhyfel, ac wedi paffio yng ngwlad Belg, Ffrainc a'r Almaen.

Ddiwrnod ar ôl i'r rhyfel orffen, cefais fy symud i Lunenburg yn yr Almaen lle gafodd y cytundeb heddwch ei arwyddo. Ddaru ni symud i fyw mewn patio ger gwesty mawr yn y ddinas.

Y syniad oedd bod o'n HQ i General Dempsey, er na wnaethon ni ei weld o fyth! Doedden ni ddim yn cael mynd i'r ystafelloedd mawr, 'mond i 'gardio' pobl.

Ond y giard cyntaf ges i i'w wneud oedd mynd i mewn i stafell fawr ac eistedd wrth y drws. Roedd dynes yn ei gwely efo nyrsys yn tendio arni. Ges i ddim gwybod beth oedd y matar arni, ond ges i wybod pwy oedd hi - gwraig Lord Haw Haw (y sbïwr William Joyce).

Rhyw dri neu bedwar diwrnod wedyn, roeddwn wedi bod ar giard rownd y lle ac yn cael bwyd yn y patio tua pump o'r gloch pan ddaeth un o'r soldiwrs i mewn a gweiddi bod rhywun wedi lladd eu hun yn un o'r stafelloedd.

Heinrich Himmler

Roedden ni'n meddwl mai un o'n hogiau ni oedd o, ond pwy oedd o ond Heinrich Himmler.

Yn ôl y stori, roedd o wedi cerdded i mewn a deud fod ganddo rywbeth pwysig i'w drafod. Doedden nhw ddim yn siŵr pwy oedd o ar y pryd felly aethon nhw â fo mewn i'r stafell interrogation.

Roedd dau o'n hogia ni efo nhw yn ei 'gardio' fo. Fel ro'n i'n dallt, dyma fo'n dweud pwy oedd o, ac mai fo oedd in charge o'r Almaen rŵan bod Hitler wedi marw ac roedd o eisiau siarad am y cytundeb heddwch. Daeth doctor i edrych drosto fo - ddaru o sbïo yn ei geg, ac roedd na wenwyn o dan ei dafod. Ddaru o ei frathu o, a marw o fewn tri munud o flaen pawb yn y stafell.

Y diwrnod wedyn, dyma Sergeant Major yn gweiddi 'Come here!' arnon ni. Roedd o am i ni gario corff Himmler i lawr y stepiau i'r fan. Roedd ei gorff wedi dyblu a'i lapio mewn wire netting. Roedd na hogia efo reifflau a Sten guns yn barod 'cofn i'r SS ymosod a trïo dwyn ei gorff o. Gafodd neb wybod lle cafodd ei gladdu wedyn."

Ymlaen i: Gwarchod Lord Haw Haw a chwarae pêl-droed efo Alf Ramsay.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý