±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dathlu 25 mlynedd Merched y Wawr yn y Parc (drwy garedigrwydd y mudiad) Sefydlu Merched y Wawr
Yn ystod blwyddyn dathlu pen-blwydd 40 oed Merched y Wawr yn 2007 bu Zonia Bowen yn sôn am y rhesymau tu ôl i sefydlu'r mudiad yn y Parc ger y Bala yn 1967 ar raglen Dei Tomos:
gwrandoGwrandewch ar Zonia Bowen

Trawsgrifiad: "Roedd hi'n amser cyffrous i'r iaith Gymraeg - y cyfrifiad wedi bod a'r iaith Gymraeg yn mynd i lawr a Saunders Lewis wedi gwneud y ddarlith ar dynged yr iaith ac wedi dweud i beidio â llenwi unrhyw ffurflen os nad oedd e'n Gymraeg a phethe felly - a dyna oedd y sefyllfa pan aethon ni i fyw yn y Parc.

Penblwydd
Cangen y Bala
Gwahoddir y rhai a fu'n aelodau yn ystod y deugain mlynedd diwethaf ers sefydlu y gangen yn 1968 i ymuno yn nathlu Penblwydd Merched y Wawr Bala. Hoffent dderbyn enwau pawb sy'n bwriadu ymuno cyn Chwefror 2il, 2008 - os oes diddordeb cysylltwch â Menna Ll Green ar 01678 520 123.

Dathlu'r 40
Bu Merched y Wawr yn cynnal gweithgareddau i ddathlu'r deugain drwy gydol 2007, yn cynnwys pasiant yn Ysgol y Berwyn. Recordiwyd Cymanfa Ganu yng Nghapel Tegid, y Bala, ar gyfer rhaglen Dechrau Canu, Dechrau Canmol hefyd. Mae manylion digwyddiadau'r flwyddyn a mwy am y mudiad ar wefan Merched y Wawr:

Ewch i ddarllen am yr achlusur ym Mhapur Penllyn.

Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

1965 oedd hynny a doeddwn i ddim wedi bod yn aelod o unrhyw beth fel y WI o'r blaen. Ond gan fy mod i yn Saesnes wedi dysgu Cymraeg ro'n i eisiau ymarfer siarad a dod i adnabod merched y pentref a phan daeth gwraig un o'r ffermwyr aton ni a dweud ei bod yn cychwyn WI, mi ymunes i.

Er syndod imi fe ges i fy ethol yn ysgrifennydd y gangen. Nawr, sylweddolais i yn syth bod popeth oedd y swyddogion yn ei roi inni y noson y sefydlwyd y gangen yn Saesneg - y cyfansoddiad, roedden nhw'n dangos cylchgronau inni - ±«Óãtv and Country, North Wales Edition, dyddiaduron .... popeth yn Saesneg, dim byd yn Gymraeg. Fel newydd-ddyfodiad doeddwn i ddim yn licio dweud dim byd ar y pryd, jyst yn derbyn y drefn. A reit, dechreuodd y gangen. Ac roedden nhw'n ein sicrhau ni bod y gangen yn gallu gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg a dyna be wnaethon ni. Ond roedd popeth oedd yn dod o'r pencadlys yn Llundain yn Saesneg a phopeth oedd yn dod o'r sir, bron, yn Saesneg er bod y swyddogion sirol yn siarad Cymraeg eu hunain - ond roedd popeth yn Saesneg ...

... Nawr roedd rhaid imi wneud adroddiad o'r gweithgareddau roedden ni wedi eu cynnal yng nghangen y Parc a, gan ein bod wedi eu cynnal nhw i gyd yn Gymraeg, mi ddanfones i'r adroddiad yn Gymraeg.

Ond fe ges i yn ôl o'r sir, ffurflen swyddogol yn Saesneg yn gofyn imi ei llenwi yn Saesneg ... Tua'r un pryd daeth llythyr o'r sir bod yn dweud bod y tâl mabwysiadaeth ro'n i fod i'w ddanfon bob blwyddyn i'r pencadlys yn Llundain, ac i'r sir , yn ddyledus. Felly ar ôl trafod pethe yn y Parc dywedais i bod e ddim yn iawn ein bod yn talu'r holl arian allan i'r sir ac i Lundain ac yn cael dim yn ôl yn Gymraeg.

A phenderfynon ni yn y Parc i gadw'r arian yn ôl .... nes inni gael ffurflenni a phethe yn Gymraeg. Felly ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf trefnon ni gyfarfod blynyddol y Parc a ddaru ni wahodd un o'r swyddogion yno i drafod busnes yr iaith yna. Ond ges i ysgrifenyddes y sir ar y ffôn yn dweud wrthon ni i ohirio'r cyfarfod tan mis Rhagfyr a bod tri ohonyn nhw yn dod lawr i'n gweld ni.

Wel, doedden ni ddim yn disgwyl unrhyw broblem; jyst meddwl eu bod nhw'n mynd i drafod busnes yr iaith ac oherwydd eu bod nhw'n siarad Cymraeg i gyd roeddwn i'n meddwl efallai y gallwn i eu perswadio nhw ac ro'n i'n fodlon gwneud popeth i'w helpu nhw a doeddwn i ddim yn disgwyl unrhyw helynt o gwbl.

Ond pan daethon nhw i lawr, yn syth roedd yn amlwg eu bod nhw wedi dod yno i ddweud y drefn. Roedden nhw'n gwrthod i'n cadeirydd ni yn y Parc gymryd y gadair, roedden nhw'n cymryd drosodd ac roedden nhw'n dweud mai sefydliad Saesneg oedd y WI, gyda phencadlys yn Llundain, a doedd dim hawl ganddon ni i ddisgwyl pethe yn Gymraeg.

Mi ofynnais i chwe cwestiwn iddyn nhw, pethe fel bod sir Feirionnydd yn rhoi grant bob blwyddyn i'r WI yn sir Feirionnydd a pam nad oedden nhw'n defnyddio peth o'r arian yna ar gyfer cynhyrchu pethe Cymraeg ... ond wrth gwrs, doedd dim byd yn tycio.

Roedden nhw'n dweud pan agorwyd y gangen ein bod ni wedi arwyddo'r cyfansoddiad, roedden ni wedi derbyn mai Saesneg oedd iaith swyddogol y mudiad ac os nad oedden ni'n derbyn y rheolau yma a thalu'r tâl mabwysiadaeth, fyse rhaid inni beidio bod yn aelodau o'r WI.

Wel ar ôl iddyn nhw fynd allan i gael te, ddaru ni drafod y mater yn y gangen a penderfynon ni dalu'r arian oedd yn ddyledus ond dweud bod ni ddim yn mynd i dderbyn mai Saesneg oedd unig iaith swyddogol y WI.

A dywedais i wrth y merched os na fydden nhw'n derbyn hynny a'u bod nhw'n danfon am ein papurau swyddogol a chau'r gangen, wel fe fydde rhaid inni ddechre mudiad arall i ferched yng Nghymru. A dyna beth ddigwyddodd."


Cyfrannwch

Siân Williams o Siersi Newydd, Unol Daleithau
Cyfarchion i Marged Ll Jones o Gwernant, Cysgid y Coleg, Bala!Pob hwyl,Cariad,Siân

Tegwen Morris o Aberystwyth
Diolch yn fawr iawn i'r mil a mwy a wnaeth ymlwybro i'r Bala heddiw 9fed Mehefin 2007 i gael gweldd o adloniant ac i ganu mor fendigedig yng nghymanfa ganu'r dathlu.


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý