±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pwmpen Calan Gaeaf Cymru
Mae'r siopau'n llawn pwmpenni a hetiau gwrachod i'r plant ond faint wyddoch chi am wreiddiau'r ŵyl yn niwylliant Celtaidd Cymru?

Dyma Emma Lile o Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, i fwrw golwg ar yr hen draddodiadau.

Hen wledd Geltaidd i ddathlu diwedd yr haf a hefyd diwedd ar yr hen flwyddyn oedd Calan Gaeaf. Roedd yn achlysur difrifol a gwir arswydus a byddent yn gwisgo masgiau i ddychryn yr ysbrydion drwg, ac nid i gael hwyl a sbri fel heddiw. Credwyd fod y bwlch rhwng y byw ac ysbrydion y meirw yn un agos, yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn.

Fel nifer fawr o wyliau'r Celtiaid, cafodd Calan Gaeaf ei fabwysiadu gan yr eglwys, a'i ail-lunio fel Gŵyl yr Holl Saint ar Dachwedd 1af a Gŵyl yr Holl eneidiau ar Dachwedd 2il, sy'n parhau'r hen draddodiad o gofio'r meirw.

Merched sengl - dyma eich cyfle chi i ragweld pwy fyddwch yn ei briodi yn y flwyddyn i ddod! O'r 'stwmp naw rhyw' i'r gacen gyda'r naw cynhwysyn, roedd gan ferched y gogledd a'r canolbarth sawl ffordd o geisio cael cipolwg ar eu darpar wÅ·r ar noson Calan Gaeaf.

Wrth i'r goelcerth ddistewi, roedd rhaid i blant y gogledd ddianc rhag yr Hwch Ddu Gwta;

Adref, adref am y cyntaf;
Hwch Ddu Gwta cipia'r olaf.


A beth am arwyddocâd yr afal? Ffordd arall i'r merched ddyfalu enw eu cariad newydd.

Mae plant wedi bod yn cael hwyl yn gwisgo i fyny ar Galan Gaeaf am ganrifoedd. Byddent yn cerfio wynebau ar rwdin neu feipen a'i gosod yn y ffenestri i ddychryn yr ysbrydion drwg i ffwrdd. Felly pa mor wahanol yw'r dathliadau Americanaidd heddiw?

  • Aferion Calan Gaeaf y canolbarth
  • Hen draddodiadau'r Nadolig a Chalan

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý