±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
³¢±ôê²Ô
Caradog Prichard
Caradog Prichard

Ganwyd: 1904

Magwyd: Bethesda


Awdur Un Nos Ola Leuad ac enillydd tair coron a chadair Eisteddfodol.

Bardd, nofelydd a newyddiadurwr oedd Caradog Prichard. Treuliodd ran fwyaf ei oes yn Llundain, lle gweithiai ar staff y News Chronicle ac wedyn y Daily Telegraph, lle oedd yn uchel iawn ei barch ymhlith ei gyd-weithwyr.

Tra'n byw yn Llundain cadwai ei wraig, Mattie, dÅ· agored i Gymry, ac eraill, a daeth eu haelwyd yn adnabyddus am rialtwch a diwylliant. Ar y llaw arall, dioddefodd Caradog o effaith alcohol ac iselder ysbryd.

Ganwyd ef ym Methesda yn Sir Gaernarfon, yn fab i chwarelwr. Achoswyd poen meddyliol iddo ar hyd ei oes gan y wybodaeth bod ei dad wedi cael ei ladd yn y chwarel, a hynny, efallai, o ganlyniad iddo fod yn 'fradwr' yn ystod y Streic Fawr ar ddechrau'r ganrif, er bod J. Elwyn Hughes wedi dangos yn ddiweddar nad yw hyn yn debyg o fod yn wir.

Yr hyn sydd yn hollol wir yw fod mam Caradog Prichard wedi cael ei hanfon i ysbyty meddwl pan oedd ei mab yn ddyn ifanc. Pwysodd hyn arno yn ddirfawr ac mae i'w weld yn ei gerddi mwyaf adnabyddus, sef Y Briodas a Penyd.

Enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith, ym 1927, 1928 a 1929, y trydydd tro gyda phryddest sy'n dwyn y teitl Y Gân ni Chanwyd. Enillodd hefyd y Gadair ym 1962 am ei awdl Llef Un yn Llefain.

Mae Y Briodas yn gyfres o delynegion dramatig sy'n cael eu llefaru gan bum cymeriad - y wraig, y mynydd, yr afon, yr ywen a'r ysbryd. Mae'r wraig yn tyngu llw i'w gŵr marw, ac erbyn diwedd y bryddest mae hi'n dawnsio'n lloerig gan dybio iddo ddychwelyd i'w hailbriodi. Cerdd ddirdynnol yw hon, fel ei ddilyniant Penyd, oherwydd, fel sy'n hysbys, mae hi wedi ei seilio ar brofiad y bardd ei hun.

Cyhoeddwyd cerddi Caradog Prichard yn y cyfrolau Canu Cynnar (1937), Tantalus (1957) a Llef un yn Llefain (1963), ac ymddangosodd casgliad cyflawn o'i waith barddonol ym 1979.

Er gwaethaf ei fri fel bardd y Goron a'r Gadair, cafodd Caradog Prichard ei lwyddiant mwyaf fel awdur y nofel Un Nos Ola Leuad (1961), sydd hefyd yn astudiaeth o wallgofrwydd, a Bethesda yn gefndir iddi hi.

Er bod y nofel wedi ei hysgrifennu yn gyfangwbl yn nhafodiaith gyfoethog yr ardal, mae hi wedi ei chyfieithu i sawl iaith arall ac wedi ei throi'n ffilm lwyddiannus. Yn wir, fe'i hystyrir fel un o nofelau mwyaf yr iaith Gymraeg.

Cyhoeddodd hefyd gasgliad o storïau byrion, sef Y Genod yn ein Bywyd (1964) a hunangofiant hynod ffraeth a dadlennol, Afal Drwg Adda (1973).

I ddeall cymeriad a gwaith y llenor cymhleth ac enigmatig hwn rhaid darllen llyfrau J. Elwyn Hughes a Menna Baines a gyhoeddwyd ym 2005. Dyn cymdeithasol iawn oedd Caradog Prichard, yn groesawgar, yn sgwrsiwr difyr, ac yn hoff o sylw a dwli - safodd unwaith fel ymgeisydd i fod yn Athro Barddoniaeth ym Mhrifysgol Rhydychen - ac eto roedd yna elfen dywyll yn ei gymeriad a ddeilliodd, yn ddiau, o'i brofiadau yn ardal y chwareli a ffawd echrydus ei rieni. Er ei fod yn hoff o ddychwelyd i'w fro enedigol o dro i dro, nid oedd yn gallu trigo yno, meddai, oherwydd profiadau atgas ei febyd.

Bu farw Caradog Prichard ym 1980 ac mae ei fedd yn rhan Eglwysig Mynwent Coetmor ym Methesda.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý