±«Óãtv

Ennill Gwobr Daniel Owen

Gweld bwlch mewn sgrifennu Cymraeg

Cystadlu heb feddwl ennill

Beirniaid yn canmol dawn arbennig

Gweld bwlch mewn sgrifennu Cymraeg a barodd i Ifan Morgan Jones sgrifennu'r nofel a enillodd iddo Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008.

"Roeddwn i'n teimlo nad oes yna ddigon o bethau ffantasi yn y Gymraeg," meddai.

Fel y sylwodd y beirniaid mae dylanwad Terry Pratchett yn drwm ar y nofel a dywedodd Ifan Morgan Jones iddo ddarllen pob un o lyfrau'r awdur hwnnw.

"Roeddwn i'n teimlo ei fod yn genre oedd angen dipyn bach mwy o sylw yn yr iaith."

Er ei fwyn ei hun

Ond cyfaddefodd mai sgrifennu'r llyfr er ei fwyn ei hun a wnaeth yn hytrach nag i'w anfon i gystadleuaeth.

Ei diwtor ar ei gwrs MA ym Mangor a'i perswadiodd i gystadlu.

"Jyst sgwennu'r llyfr er fy mwyn fy hun wnes i fel rhan o'm cwrs a doeddwn i byth yn meddwl y buasai o'n cael ei gyhoeddi. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill" meddai.

Er yn hael eu canmoliaeth i'r nofel yr oedd y beirniad yn feirniadol o'r ail hanner gan ddweud bod lle yno i gwtogi a thacluso a dywedodd Ifan Morgan Jones iddo gael cyfle i wneud hynny cyn i'r nofel gael ei chyhoeddi yn dilyn y gystadleuaeth.

"Ond yr un nofel ydi hi i bob pwrpas," meddai.

Dawn brin

Disgrifiwyd yr awdur, sydd yn ddirprwy olygydd Golwg, fel un sy'n meddu "dawn brin i chwarae ar eiriau, dychymyg sy'n drên hir a chrefft sy'n peri i eiriau ddawnsio" gan Harri Parri, yn traddodi'r feirniadaeth ar ran Meg Elis ac Emyr Llywelyn.

Ychwanegodd mai o'r awdur Saesneg Terry Pratchett a'i ffantasiâu comediol yr oedd ef yn cael ei atgoffa.

"Ychwanegwch at y gymysgfa, gyfoeth gwybodaeth am hanes Cymru a'i chwedloniaeth a dyna ichi resipi torth ryfeddol Y Pobydd.

"Mae i'w weledigaeth o, yn ôl Meg, 'newydd-deb a ffresni'.

"Ym marn Emyr, 'Go brin fod yng Nghymru heddiw nofelydd mor wreiddiol a dyfeisgar ag awdur y nofel hon'," meddai.

Yn yr un modd â Pratchett dywedodd Harri Parri mai y stori sy'n bwysig yn y nofel hon a'r "greadigaeth yn rhywbeth i'w hystumio i gwrdd â gofynion ei weledigaeth."

Mabinogwlad

Mae'r nofel yn ymwneud a phrif gymeriad, Tomos, sydd a phorth yn ei gartref yn rhoi mynediad iddo i'r "Mabinogwlad" lle mae'n byw ei nofel.

Mae'n dychwelyd oddi yno i arwain ei wlad i realaeth.

Niwrosis

Ychwanegodd Harri Parri mai thema'r nofel yw niwrosis ynglÅ·n a thynged y genedl Gymreig a'r chwilio am feddyginiaeth yn y gorffennol.

"Mae'r thema'n un hen.
Niwrosis, pryderon am dynged Cymru a throi at chwedloniaeth am feddyginiaeth. Ond mae'r ateb sy yn y nofel huawdl hon yn eironig o wahanol," meddai.

"Ond, erbyn ail hanner y nofel mae'r awdur fel petai o'n meddwi ar ei athrylith ei hun, mae digon yn llithro i fod yn ormod ac mae'r plot yn dioddef. Ein barn unfrydol ni ydi y byddai cwtogi a thynhau wedi talu ar ei ganfed," ychwanegodd.

Wrth roi ei ddedfryd dywedodd: "Os mai amcan y gystadleuaeth ydi gweld cyhoeddi nofel 'boblogaidd' - yn yr ystyr, un y gellid ei darllen yn rhwydd - mae nofel Daldifi yn ffitio'r galw hwnnw'n well.

Ond os mai'r bwriad ydi gwobrwyo nofel aruchel, lle mae dyfnder yn galw am ddyfnder, yna'r Pobydd piau hi. Rydan ni'n gwbl gytûn fod Y Pobydd yn llwyr haeddu Gwobr Goffa Daniel Owen."

.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.