±«Óãtv

Ym mrigau'r goeden

Tyfu coeden fetel ar y maes!

Coeden ddur gyda dail o gopr

Symbol o dwf addysg Gymraeg

Bydd coeden sy'n 'tyfu' ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon yn arwydd o dwf addysg Gymraeg yn y Brifddinas.

Coeden fetel yw hi - wedi ei chreu gan Nia Wyn Jones mewn cydweithrediad a disgyblion ysgolion Cymraeg Caerdydd.

Brigau uchaf y goeden

Mae Nia, sy'n adnabyddus am ei gwaith gof celfyddydol yn un o gyn ddisgyblion Ysgol Glantaf ac mae ei gwaith gyda'r disgyblion yn rhan o ddathliadau deng mlynedd ar hugain o addysg Gymraeg yng Nghaerdydd sy'n cael cryn sylw yn yr Eisteddfod hon.

Cyn mynd ati i greu y goeden fetel drawiadol sydd ar faes yr Eisteddfod bu Nia yn cynnal gweithdai ac yn trafod syniadau gyda disgyblion Glantaf a disgyblion yr ysgolion cynradd.

Ddydd Sadwrn yr oedd yn glanhau dur distaen y goeden fel ei fod yn sgleinio yn yr haul ar gyfer gosod arni yn ystod y dyddiau nesaf ddail metel sydd wedi eu llunio gan y plant.

Dywedodd mai dail ydyn nhw o ddychymyg y plant yn hytrach na dail unrhyw goed go iawn.

"Mae'r dail yn gopr, pres, efydd ac arian o wahanol liwiau ac yn gwneud y cerflun yn gyfanwaith y mae pawb wedi cyfrannu tuag ato," meddai.

Wedi'r Eisteddfod bydd y goeden yn cael cartref parhaol yn Ysgol Gyfun Glantaf.

Dywedodd Nia, sydd, yn ogystal â bod yn gerflunydd mewn metel, yn un o ohebwyr y rhaglen deledu Wedi Saith i'r plant fwynhau y profiad o weithio mewn metel ar gyfer y prosiect.

"Yr oedd yn brofiad gwahanol iddyn nhw gan nad ydynt yn cael llawer o gyfle i weithio mewn metel wrth i'r pwyslais mewn cyrsiau celf a thechnoleg symud mwy at dechnoleg nag at grefft," meddai.


±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.