±«Óãtv

Gwilym Owen

Steddfod Gwilym Owen - Iau

Ambell i frathiad o wersyll Pontcanna - bob dydd

Croeso unwaith eto i Wersyll Cynnull Pontcanna.

Mae hi'n fore Iau a Nedwyn John y ci a minnau yma o hyd - ond, wps, efallai na ddylwn i ddefnyddio geiriau mor sanctaidd yn dilyn y bennod ryfeddol ar ôl y noson deyrnged i Grav, nos Fawrth.

Ysgwn i pryd, os byth, gawn ni wybod y gwirionedd am absenoldeb Dafydd Iwan?

Da gweld fod drama newydd Aled Jones Williams wedi llwyddo i gyffroi nifer o honedig grefyddwyr ein cenedl - dwi'n siŵr bod y dramodydd wrth ei fodd!

A diddorol oed clywed bos Cytun yn ymateb i'r cynhyrchiad ar y radio ac yn llwyddo i beidio cythruddo neb drwy honni ei fod o'n hoffi'r rhan gyntaf ond ddim mor siŵr o'r ail hanner.

Mewn geiriau eraill, eistedd ar y ffens fel y buasech chi'n disgwyl gan rywun sy'n gorfod cadw'r ddysgl yn wastad rhwng y rhai sy'n gwybod eu bod nhw'n Gristnogion a'r gweddill sy'n anelu at fod yn Gristnogion.

Golygfa o'r ddrama

Pa chwyldro?

"Be wnes ti yn ystod y chwyldro gyfaill," oedd teitl dramatig Euryn Ogwen Williams ddoe yn trafod yr oes ddigidol.

Beth oedd y chwyldro tybed? Ai'r ffaith fod miloedd ar filoedd o bobl wedi troi cefn yn ystod y degawd ar arlwy Gymraeg S4C?

Theimlais i ddim byd arall - wnaethoch chi?

Colli gwres

Bu ymdrech ar arall ar faes Prifwyl Caerdydd i gadw sosban y Coleg ffederal Cymraeg i ffrwtian ond tybed nad ydi'r gwres wedi mynd allan o'r ymgyrch a'r gobeithion a bod geiriau yr Athro Richard Wyn Jones yn rhifyn y Steddfod o Barn yn gwbl gywir nad oes yna ar hyn o bryd gynllun credadwy ar gyfer y coleg y gellir ei roi ar waith.

A mae o'n gefnogwr selog i'r bwriad.
O diar, diar.

Rhagor o achubiaeth

Ar y llaw arall daeth prawf i faes y Steddfod ei bod hi'n bosib achub ambell i symbol o'n Cymreictod o byrth y bedd.

Roedd rhai ohonom o'r farn fod Canolfan Nant Gwrtheyrn ar ei pheiriant bywyd terfynol ond ddoe wele un o weinidogion Llywodraeth Cymru'n Un yn cyhoeddi fod £400,000 o bunnau yn cael eu cynnig i roi bywyd newydd i'r Nant.
Sawl gwaith ydym ni wedi clywed hynny o'r blaen?

Bois y Cyrn

Ac fe gefais innau agoriad llygad yr wythnos hon drwy ddod i wybod am y tro cyntaf beth yw enwau Gorsedd ceidwaid y cyrn gwlad.

Dewi Corn ydi un a Paul Corn Cynan ydi'r llall.
Mae rhywun yn dysgu rhywbeth bob dydd!

Plismona

A'r bore 'ma bydd dau blismon iaith y Steddfod yn ymweld â stondin cwmni sy'n arbenigo mewn gwasanaethau i ferched siapus gan ddweud, 'Siapiwch hi,' wrth y perchnogion os na fydd arwyddion Cymraeg ar y stondin.

Ac mi fydd Nedwyn John yno hefyd rhag ofn y bydd angen help i'w troi allan o'r Maes!


±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.