±«Óãtv

Yr Argae - adolygiad

Drama o Iwerddon yn deyrnged i Wil Sam

Adolygiad Alwyn Gruffydd o Yr Argae gan Connor McPherson - cyfieithiad Wil Sam Jones. Sherman Cymru/Torri Gair. Theatr Sherman, Awst 6, 2008.

Bu cyfieithiadau gwaith dramodwyr Saesneg Iwerddon yn un o nodweddion mwyaf difyr y ddrama Gymraeg gydol yr Ugeinfed Ganrif.

Cofiadwy

Cafwyd cyfieithiad gwych Saunders Lewis o ddrama enwocaf Samuel Beckett, Aros am Godot. Cafwyd Congrinoro'r Gorllewin, cyfieithiad Gruffudd Parry o gomedi J.M.Synge, Playboy of the Western World; a phwy all anghofio Torri Gair - cyfieithiad cofiadwy Elan Closs Stevens o ddrama ysgytwol Brian Friel, Translations.

Drama arall rodiodd fri o ddawn ddi-gwestiwn Brian Friel oedd Philadelphia Here I Come, a do cafwyd cyfieithiad Cymraeg; Bore Fory Ddaw - a'r cyfieithydd y tro hwn oedd WS Jones - Wil Sam.

Bu farw Wil - a Wil oedd o i bawb o bob oed - ar Dachwedd 15 y llynedd a chollodd Dora, Mair ac Elin ŵr caredig a thad hynod ofalus.

Collodd degau ohonom ni gafodd y fraint o'i adnabod gyfaill ymysg yr anwylaf o feibion - a chollodd Cymru athrylith.

Nid annisgwyl felly oedd gweld teyrnged i'w gyfraniad amhrisiadwy yn amlwg yn ein Prifwyl eleni - Prifwyl y bu Wil ei hun yn ei mynychu am genedlaethau fel cyfrannwr, cystadleuwr ac yn anad dim fel crwydrwr y Maes.

Ei ddrama'i hun yn well

Mae'n rhaid cyfaddef y basa hi wedi bod yn well gen i weld cynhyrchiad o'r newydd o waith neu weithiau gwreiddiol y dramodydd o Eifionydd megis Dinas Barhaus neu Bobi a Sami.
Ond nid felly y bu.

Dewis cwmni drama newydd o'r enw Torri Gair ar y cyd â Sherman Cymru oedd cyfieithiad arall gan Wil o waith y Gwyddel Conor McPherson, The Weir -Yr Argae yn y Gymraeg.

Ond gallaf ddeall y rhesymeg y tu ôl i'r dewis. Dyma'r tro cyntaf i'r cyfieithiad weld golau dydd - daeth i'r fei yn dilyn marwolaeth ei chyfieithydd. Does dim amheuaeth ychwaith o adnabyddiaeth Wil o draddodiad y ddrama Saesneg yn Iwerddon gan ei drwytho ei hun yng ngwaith Beckett a Friel, O'Casey a Yeats, John B Keane a JM Synge.

Dros y blynyddoedd bu'n ymwelydd cyson â Iwerddon ac yn arbennig Theatr enwog yr Abbey yn Nulyn. Cyfle i "jarjio'r batris", chwedl yntau, a fel y gŵyr y gymdeithas yn Nhafarn y Plu Llanystumdwy bu'n ffyddlon i gampwaith Arthur Guinness tan y diwedd bron.

Gallaf weld hefyd beth a ddenodd Wil at ddrama a berfformiwyd gyntaf yn Theatr y Royal Court yn Llundain ym 1997.

Pwyslais ar y sgwrsio

Fel drama, eilradd yw'r plot ac eilradd, at ei gilydd, yw'r cymeriadu ond beth a geir yn Yr Argae yw deialog - y cyfuniad hwnnw o iaith, troeon ymadrodd a chyfle, os y bu cyfle erioed, i ymarfer hen, hen, ddawn y cyfarwydd. Dyma heb os yw cryfder diymwad McPherson ac mae'r cyfieithydd wedi manteisio ar hynny i'r pen.

Cyfres o fonologau yw Yr Argae ac yn y cynhyrchiad hwn a berfformir gydol yr wythnos hon yn Theatr y Sherman, Caerdydd, cyflwynir y monologau hynny'n effeithiol odiaeth gyda pawb o'r gynulleidfa ar bigau'r drain yn dal ar bob gair wrth i'r cymeriadau adrodd eu profiadau personol hwy o'r goruwchnaturiol.

Lleolir Yr Argae mewn tafarn wledig yng nghyffiniau Sligo yn Iwerddon. Buasai Wil wedi cael pleser o wybod mai Gwyn Eiddior, ei ŵyr, fu'n gyfrifol am gynllunio set sydd wedi dal y naws i'r blewyn.

Pob nos dyma lle mae'r dyn garej lleol, Jac (Ian Saynor), a gweithiwr yn y garej, Jim (Emlyn Gomer) , yn cyfarfod am lymaid a sgwrs gyda'r tafarnwr, Brendan (Owen Arwyn).

Mae'n sgwrs undonog a diflas yn troi o gwmpas y tywydd a rasys ceffylau'r dydd. Does dim uchelgais. Does dim mymryn o fflach. Mae'r tri'n ddi-briod.

Er mwyn cyfleu diflastod eu buchedd ceir ysbeidiau hir yn y sgwrs ond efallai y gellid wedi godro hyd yn oed mwy o'r ysbeidiau hynny.

Cyfaill arall

Ond heno mai cyfaill arall i'r tri, Finbar (Richard Elfyn), yn galw heibio. Mae o'n briod, yw ŵr busnes llwyddiannus ac wedi mudo i dref gyfagos.

Yn ei gwmni mae Valarie (Sara Lloyd), gwraig o Ddulyn sydd wedi ymsefydlu'n yr ardal.

Mae'n Finbar yn esgus cyflwyno'r ardal i Valerie ond mae'r tri chyfaill yn amau ai hynny yw'r gwir gymhelliad.

Yn dilyn y tynnu coes dechreuol mae'r sgwrs yn troi at adrodd straeon am fwganod sydd mor ddychrynllyd a'i gilydd ac yn codi cwr y llen ar elfennau ym mhersonoliaethau pob storïwr yn ei dro.

Dyna, mewn ychydig eiriau yw swm a sylwedd Yr Argae.

Mae cryfder y ddrama yn y dweud yn fwy na'r gwneud ond yn anffodus nid oedd y dweud hwnnw'n taro deuddeg bob tro yn y perfformiad a welais i.

Doedd holl graffter clust Wil tuag at iaith ddim yn gyson amlygu ei hun.

Sterodeipiau

Nid oeddwn ychwaith yn gyfangwbl gyfforddus gyda chymeriadau'r ddrama ei hun. Steriodeipiau rhagfarnllyd ydynt o Wyddelod meddw, dwl ac ofergoelus - steriodeipiau sydd bellach yn perthyn mwy i lyfrau hanes nac i Iwerddon heddiw.

Boed hynny; y cwestiwn yw a yw'r cynhyrchiad hwn yn deyrnged deilwng i WS Jones.

Siŵr iawn ei fod o ac am hynny rhaid i ni ddiolch am weledigaeth y cynhyrchwyr ac i Wil am rannu o'i ddawn anghyffredin am y tro olaf fel hyn.


±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.