±«Óãtv

Gyda Dic Jones yr Archdderwydd

Hilma - Prifardd Prifddinas

Yr ail ferch i ennill Cadair

Dryllio cynlluniau'r gaeaf!

Drylliwyd cynlluniau Hilma Lloyd Edwards ar gyfer eisteddfodau'r gaeaf gyda'i buddugoliaeth yng Nghaerdydd bnawn Gwener.

Wedi dim ond ail seremoni gadeirio yn holl hanes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Brifddinas dywedodd Hilma iddi fod yn anfon cerddi i gystadleuaeth Cadair y Genedlaethol yn y gorffennol er mwyn cael gweld a fydden nhw'n ddigon da i'w hanfon i eisteddfodau bychain y gaeaf.

Hilma Lloyd Edwards

Yn y rheini enillodd dros 50 o gadeiriau cyn dod yr ail ferch yn unig i ennill cadair Genedlaethol.

Dywedodd iddi gystadlu sawl gwaith am y Gadair o'r blaen a phan ofynnwyd iddi mewn cynhadledd wedi'r seremoni pam cystadlu o gwbl yn y Genedlaethol dywedodd:

"Er mwyn cael cerddi i gystadlu mewn eisteddfodau yn y gaeaf am y cash - os oedden nhw'n dod yn weddol dda yna fe wnâi hanfon nhw," meddai.

"Ond fedrai ddim gwneud hynny rŵan," meddai gan chwerthin.

Newyddiadurwraig a nofelwraig ac Eifftolegydd sy'n awr yn gyfieithydd yw Hilma Lloyd Edwards a ymgeisiodd dan y ffugenw Eco gyda chasgliad o chwech o gerddi wedi eu cysylltu a gwahanol fannau - Ynys y Pasg, Tuvala yn Ne'r Môr Tawel, Spitsbergen, Rheged a'r Lleuad.

Yr oedd gwahaniaeth barn ymhlith y beirniaid pwy ddylid ei gadeirio gydag Emyr Lewis yn ffafrio ymgeisydd â'r ffugenw, Kong

Ond yr oedd yntau ghefyd yn ystyried Eco yn deilwng o'r Gadair.

Hilma Lloyd Edwards yn paratoi ar gyfer yr Orsedd yn y bore!

"Yn fy marn i gellid cadeirio, Swllt, Pedr, Eco neu Kong. Mater o chwaeth yw hi yn y pen draw. Bob hyn a hyn uyn hanes cerdd dafod, ymddengys llais gwirioneddol newydd a gwreiddiol. Mae Kong yn un o'r rheiny, a Kong i mi yw prifardd crych y gystadleuaeth hon eleni," meddai yn ei feirniadaeth gan olygu wrth 'crych' duedd i herio disgwyliadau a chonfensiynau cystadleuaeth y gadair.

Ond gwaith Eco a ddaeth i'r brig o'r cychwyn i Nia Powell.

"Gogoniant cerddi Eco . . .Yw eu bod yn pefrio a rhagori er gwaethaf y brychau am eu bod yn farddoniaeth sy'n canu ac yn gyfoethog eu hawgrym a'u hystyr.

"O'r holl gystadleuwyr, Eco a wnaeth y defnyd helaethaf o vers libre ar gynghanedd a cheir arbrofi cynganeddol arbennig o effeithiol yn ei gerdd olaf," meddai.

Ac meddai Gwyn Thomas:
"Y mae'r bardd yn llwyddo i lefaru fel un ag awdurdod ganddo, a gwneud hynny'n dawel a hyderus."


±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.