±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Adar Brith
Darlun o ymosodiad gan Ferched Beca
Merched Beca

Ganwyd: Tua 1839

Magwyd: Efailwen

Addysg: Cymysg


Chwalu tollbyrth

Erbyn diwedd tridegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, prin fod terfysgoedd y Siartwyr wedi gorffen na chafwyd rhagor o derfysgoedd o fath gwahanol.

Terfysg trefol oedd un y Siartwyr, ond daeth Merched Beca â therfysg i berfeddion cefn gwlad.

Dechreuwyd gwella ffyrdd yng Nghymru rhwng 1700 a 1800. Atgyweiriwyd hen ffyrdd a lluniwyd rhai newydd, ond oherwydd nad oedd gan y swyddogion plwyf lawer o glem ynghylch cynnal a chadw, sefydlwyd y Ddeddf Dyrpeg yn 1770.

Codwyd tollbyrth, ond gwendid mawr y cynllun oedd fod gwahanol ymddiriedolaethau tyrpeg yn gyfrifol am wahanol dollbyrth.

Doedd dim cysondeb yn lefelau'r tollau, a doedd y tollau a gesglid ddim yn ddigon i dalu am y gwaith o drwsio'r ffyrdd ychwaith.

O ganlyniad, pasiwyd deddf arall yn 1833. Codwyd y tollau'n uwch - a'r tro hwn, cododd y werin hefyd i geisio unioni'r cam.

Yr ymosodiad cyntaf

Yn Efailwen yr ymosodwyd ar y tollborth cyntaf, a hynny fel protest yn erbyn Ymddiriedolaeth Cwmni Tyrpeg Hendy-gwyn.

Roedd y tollau'n faich ar ffermwyr bach, ac yn ardal Efailwen roedd y tollborth yn atalfa ar y ffordd a arweiniai at odynau calch yn yr Eglwys Lwyd.

Yn wir, roedd tollborth Efailwen yn un o bedwar yn yr ardal ac nid cludo calch oedd yr unig broblem.

Byddai ffermwyr y cylch yn gyrru eu creaduriaid i wahanol farchnadoedd ac yn gorfod talu am wneud hynny hefyd.

Ar ben y cyfan roedd yn rhaid talu'r degwm i'r Eglwys, sef degfed ran o gynnyrch fferm, heb sôn am ofynion Treth y Tlodion oedd yn codi bob blwyddyn.

Twm Carnabwth

Mewn ysgubor ar fferm Glyn Saith Maen yn Llangolman y cyfarfu'r protestwyr gyntaf.

Yr arweinydd oedd Thomas Rees, a drigai yn nhyddyn Carnabwth ym Mynachlog-ddu ar odre'r Preselau.

Roedd Twm Carnabwth yn ddyn cydnerth, cyhyrog a arferai focsio mewn ffeiriau.

Roedd hefyd yn adroddwr pwnc heb ei ail ac yn arweinydd naturiol.

Trefnodd i'r protestwyr dduo'u hwynebau a gwisgo dillad menywod fel na chaent eu hadnabod.

Gan ei fod mor fawr, cafodd Twm hi'n anodd dod o hyd i ddillad menyw i'w ffitio, ond llwyddodd i gael rhai addas gan wraig o'r enw Beca Fawr o blwyf Llangolman.

Dyna sut y cafodd Merched Beca eu henw, medd rhai, ond mae damcaniaeth wahanol hefyd.

Dywedir i'r enw ddod o Lyfr Genesis, pennod 24, adnod 60: 'Ac a fendithiasant Rebeccah ac a ddywedasant wrthi, "Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddion, ac etifedded dy had borth ei gaseion".'

Ymhob ardal lle codai gwrthdystwyr, câi'r arweinydd ei alw yn Beca a'i ddilynwyr yn Ferched Beca. Byddai Beca fel arfer yn marchogaeth ar geffyl gwyn a'r criw yn cario arfau cyntefig fel bwyeill, barrau haearn, pladuriau, crymanau ac ambell ddryll.

Ar noson yr ymosodiad cyntaf, ar 13 Mai 1839, ymhlith torf o dros 300, cariai Twm fwyell.

Malwyd y glwyd yn Efailwen yn ddarnau.

Ailgodwyd y glwyd ond ailgyfarfu Merched Beca.

Doedd y saith cwnstabl oedd ar ddyletswydd yno yn ddim un math o ataliad.

Y tro hwn difethwyd nid yn unig y tollborth ond y tollty'n ogystal.

Y terfysg yn ymledu

Ildiodd yr Ymddiriedolaeth a bu heddwch am gyfnod, ond roedd yr annhegwch yn parhau mewn mannau eraill.

Yn ardal San Clêr, er enghraifft, byddai ffermwyr yn gorfod talu ddwywaith o fewn un filltir.

Ailgychwynnodd y brwydro. Dinistriwyd y clwydi hyn ac eraill hefyd.

Danfonwyd milwyr i geisio cadw'r heddwch, ond parhau i ledu wnaeth yr ymgyrch.

Ar nos Wener 26 Mai 1843 ymosododd tua 300 o'r Merched ar glwyd Heol Dŵr yng Nghaerfyrddin.

Dilynwyd hyn gan ddinistr clwydi ledled Sir Gaerfyrddin.

Yna, ym mis Mehefin, daeth torf o bedair mil ynghyd ger y Plough and Harrow yn y dref a gorymdeithio y tu ôl i seindorf gan gario baneri'n galw am gyfiawnder.

Fe'u chwalwyd gan y 4ydd Dragoons ond dihangodd Beca ei hun.

Credir mai Michael Bowen o Drelech oedd yr arweinydd y tro hwn.

Sylw'r wasg

Cymaint oedd y terfysg fel i'r Times ddanfon ei ohebydd ei hun, T. C. Foster, yno.

Roedd adroddiadau Foster yn y Times yn llawer tecach na'r rheiny a ymddangosai yn y papur lleol, y Carmarthen Journal.

Yr un adeg danfonwyd milwyr i gadw'r heddwch yng Nghaerfyrddin ynghyd â'r Cyrnol George Rice Trevor, Dirprwy Raglaw Sir Gaerfyrddin, i gymryd yr awenau oddi wrth ei dad, a oedd yn wael.

Ceisiodd yr awdurdodau ymresymu, ond gwaethygu wnaeth y sefyllfa wrth i'r ymgyrch ledu i ddwyrain Sir Gaerfyrddin.

Marwolaeth ac achosion llys

Ym Mhorth-y-rhyd, lladdwyd ceidwad y tollty, Sarah Williams. Yn y Stag and Pheasant ym Mhump Heol cynhaliwyd cyfarfod enfawr o dan arweiniad John Jones (Sioni Sgubor Fawr) a David Davies (Dai'r Cantwr).

Daliwyd a chyhuddwyd y ddau, ac yn dilyn achos llys fe alltudiwyd y naill am weddill ei oes a'r llall am ugain mlynedd.

Clywodd yr awdurdodau fod cynllun ar waith i daro clwydi Pontarddulais a'r Hendy.

Y tro hwn roedd plismyn yn aros amdanynt; dan arweiniad y Capten Napier, Arolygydd Heddlu Sir Forgannwg, daliwyd saith o'r protestwyr yn cynnwys John Hughes, 24 oed, neu Jac Ty-isha o Lan-non.

Alltudiwyd ef am ugain mlynedd.

Credir mai symbylydd ymgyrch Merched Beca oedd y cyfreithiwr a'r Siartydd brwd, Hugh Williams o Gaerfyrddin.

Bu'n amddiffyn nifer o'r Merched a ymddangosodd o flaen y llysoedd fel y gwnaethai adeg trafferthion y Siartwyr.

Damcaniaeth ddiddorol arall yw mai'r defnydd o'r Ceffyl Pren, sef ffordd o arddangos delw o elyn, oedd y tu ôl i Ferched Beca.

Llwyfannwyd y ddefod ger clwyd Pwll Trap gyda ffermwr wedi'i wisgo fel hen wraig ddall yn ceisio mynediad drwy'r glwyd ac yna'n annog ei 'phlant' i falu'r llidiart.

Malwyd a llosgwyd y glwyd o fewn deng munud.

Buddugoliaeth

Credir hefyd mai dim ond un agwedd ar waith Beca a'i Merched oedd malu tollbyrth, a chafwyd enghreifftiau o ddefnyddio Beca fel modd i drafod gwahanol gwynion cymdeithasol.

Cyfarfod mawr ar fynydd Sylen uwchlaw Cwm Gwendraeth ar 25 Awst 1843, ac un arall ger Llyn Llech Owain y mis canlynol, a arweiniodd at gadoediad.

Yn y cyfarfodydd hyn galwyd am ddanfon deiseb at y Frenhines.

Y flwyddyn wedyn pasiwyd Deddf newydd a welodd ymddiriedolaethau siroedd de Cymru yn cael eu huno.

Hanerwyd y doll ar galch, symleiddiwyd cyfundrefn y taliadau, a diddymwyd y dyledion yn erbyn rhai o'r ymddiriedolaethau hynaf.

Roedd Beca a'i Merched wedi ennill buddugoliaeth.

Lyn Ebenezer

  • Cliciwch yma i weld chwedl Merched Beca mewn lluniau gan ddisgyblion Ysgol Beca, Efailwen.

  • Cyfrannwch

    Robert o Abergavenny
    Roedd hwn yn ddiddorol iawn ac fe wnes i fwynhau ei ddarllen.

    Mari o Gaerfyrddin
    Degwm yw roedd rhaid i bawb rhoi 10% o'i incwm blynyddol i'r Eglwys.

    Katie o Llanelli
    Sut dwi'n medru dod o hyd i map o ardal y terfysgoedd yng Nghwm Gwendreath ?

    Adam o Crosshands
    Merched Beca yn wych. Arwyr y genedl yn bendant. Twm Carnabwth yn ledgend

    Bobbi Jones
    Diolch am yr help gyda fy mhrosiect!

    Anna o Aberdar
    Wnaeth hyn helpu fi llawer ar fy ngwaith cartref hanes

    Manon o Fynyddygarreg
    ble oedd tollborth y garreg ym mynyddygarreg???

    Aled Griffiths, Hendy Gwyn.
    Degwm oedd y 'treth' oedd y pobl yn gorfod eu talu i gynnal eglwys Lloegr. (10%) Roedd yna lawer o atgasedd tuag at y degwm yng ngorllewin Cymru gan nad oedd mwyafrif o'r werin bobl yn mynychu'r eglwys, ond yn gapelwyr.

    Cari Thomas o Lanelli
    Beth yw degwm?

    Rodus Cilgerran
    Roedd yna llawer o ddigwyddiadau yn y cyfnod yna i achosi'r terfysgwyr; fel cyflogau isel, y wrcws, y ddegwm a'r safon byw.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r ±«Óãtv yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ±«Óãtv - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý