±«Óãtv

Llyfrau plant - stori Dafydd Emyr i'w blant

Un o luniau'r llyfr

30 Hydref 2009

Straeon amser gwely i'w blant oedd man cychwyn llyfr cyntaf yr actor Dafydd Emyr.

Stori am anturiaethau cath o'r enw Jo Bach a'i gyfaill Wil Wiwer ydi Jo Bach a'r Polyn sydd wedi ei ddarlunio'n rhagorol gan José Solís.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Bu Dafydd Emyr yn siarad am y llyfr efo Caryul Parry Jones ar ±«Óãtv Radio Cymru Hydref 28 2009.

Eglurodd mai ei ddwy ferch oedd yr ysbrydoliaeth yn crefu bob nos am ei straeon am gath fach wallgof a'i ffrind o wiwer.

"Yr oeddan nhw wrth eu boddau - yr oedd o'n ddileit a dweud y gwir," meddai Dafydd.

Datgelodd bod yna, "efallai", arlliw ohono ef ei hun yn hogyn bach yn Jo Bach y gath "sy'n lecio cael sialens a her ac yn trio concro a threchu bob amser y gall o".

Dywedodd bod troeon trwstan a thrafferthion - bron fel Dafydd ap Gwilym ond nid yn yr un tir!

Disgrifiodd Wil Wiwer fel tipyn o gês yn dweud pethau gwirion a'i ddannedd miniog yn fanteisiol iawn ar adegau..

"Mae dipyn o'r rebal yn y ddau ac efallai dipyn o fi yn Jo Bach," meddai.

A'r newyddion da i'r rhai fydd yn mwynhau'r llyfr cyntaf hwn yw bod gan Dafydd Emyr - sy'n briod â'r llenor Gwyneth Glyn - "nifer fawr" o straeon yn weddill.

Ychwanegodd mai ei "ffad" ddiweddaraf yw cynganeddu.

"Yr yda ni fel Cymry yn siarad ar gynghanedd beth bynnag ac mae cael rhyw fath o drefn a gallu dweud pethau yn gryno un ai mewn llinell o gynghanedd neu gynghanedd hirach yn ffantastig. Mae'r sŵn yn gyfareddol," meddai wrth Caryl ar raglen Nia.

Ond dydi pethau ddim yn gweithio bob tro "Mi wnes i sgwennu englyn dridiau'n ôl - yr oedd gen i broblem gyda'r drydedd linell ac mi rois i'n sylw i gyd [i honno] heb sylwi [bod] wyth sill yn y llinell olaf!"

Cyhoeddir Jo Bach a'r Polyn gan Wasg Carreg Gwalch. £4.95.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn ±«Óãtv Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.