±«Óãtv

Mari Stevens - yn ateb ein holiadur

Mari Stevens

05 Hydref 2009

  • Enw: Mari Stevens.


  • Beth yw eich gwaith?

  • Rheolwr Marchnata i ±«Óãtv Cymru Wales - ond dwi bant ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd, yn gofalu am fy mab bach newydd, Jac.

  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Swyddi gwyliau haf - tywys pobl o gwmpas safle adeiladu'r Gerddi Botaneg Cenedlaethol cyn iddyn nhw agor a glanhau'r Llew Du yn Aberystwyth bob bore am ddeufis cyfan.

  • O ble'r ydych chi'n dod?

  • Mi ges i fy ngeni ym Maenclochog, Sir Benfro ond merch y ddinas ydw i - Dinas Abertawe.

  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

  • Caerdydd.

  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

  • Do - ro'n i'n joio pob pwnc ond y peth gore ges i o'm cyfnod yn yr ysgol oedd criw mawr o ffrindie ffantastig.

  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?

  • Cynnig, comisiwn a chwrso'r Lolfa - a'r awydd i sgrifennu rhywbeth am y mhrofiad o fyw yn Awstralia.

  • Wnewch chi ddweud ychydig amdano?

  • Nofel i bobl ifanc tua 12 oed yw hi ar y thema o berthyn i deulu - ac i ddiwylliant. Mae prif linyn y stori yn dilyn taith Gwawr i Awstralia i weld ei thad a'i gariad newydd, Shirley. Ond merch fach o gefndir brodorol sy'n cael ei 'dwyn' oddi ar ei theulu yw prif gymeriad arall y nofel. Mae'r ddwy stori yn plethu erbyn y diwedd.

  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

  • Dim ond un llyfr go iawn - carirhys@hotmail.com, nofel ysgafn ac ychydig yn sili i bobl ifanc yn eu harddegau; ond cafodd fy nghyfrol fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Lên yn Eisteddfod yr Urdd 2000 ei chyhoeddi hefyd. Bestseller siwr o fod!

  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

  • The Wonderful Story of Henry Sugar gan Roald Dahl - cyfrol o straeon byrion y gwnes i ei phrynu yn Virginia, UDA, tra ar wyliau. Dwi ddim yn cofio lot o'r straeon ond ro'n i'n falch iawn o'r ffaith bod y pris mewn doleri ar y clawr cefn.

  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?

  • Weithiau - ond dwi'n poeni y bydd y straeon wedi colli eu hud erbyn hyn.

  • Pwy yw eich hoff awdur?

  • Roald Dahl, Mihangel Morgan, A.A.Gill (yn y Times ar bnawn Sul) - a Maya Angelou ond fel bardd yn fwy na llenor.

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • Collected Poems Maya Angelou. Mae fy nghopi yn rhacs o gael ei gario rownd y byd yn fy bacpac

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • Maya Angelou. Mi lofnododd hi fy nghopi o'i chyfrol yn y Gelli Gandryll - ond mi dwi'n dyfaru mynd yno i gwrdd â hi. Ges i siom.

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • Refusal - am resymau personol! Dwi wastad yn darllen cerddi o bersbectif hunanol.

  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

  • I am your North, your South, your East, your West gan Auden.

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • Y ffilm Eidalaidd, Life is Beautiful - La Vita è Bella - a The West Wing am ei hoptimistiaeth.

  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

  • Mr Darcy yw'r ateb i'r ddau gwestiwn. Ac ma Briony yn Atonement yn gymeriad crwn o gas hefyd.

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • Deuparth gwaith yw ei ddechrau - ond dwi ddim yn cofio hynny'n ddigon aml.

  • Pa un yw eich hoff air?

  • ³§¾±²¹³¾±èê²Ô?


  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Cerdded mewn sodlau uchel.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

  • Methu ishte'n llonydd.

  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

  • Dwi'n poeni gormod am y pethau anghywir.

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Samantha yn Sex and the City - 'sdim diawl o ots ganddi be mae neb yn ei feddwl amdani. Neu Michelle Obama.

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

  • Araith Barak Obama yn Grant Park, Chicago, noson ei bleidleisio'n Arlywydd America.

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

  • Heledd (Canu Heledd) - "Be ddigwyddodd?
    "

  • Pa un yw eich hoff daith a pham?

  • Y daith o Yeovil i East Coker, lle y cafodd fy nhad ei fagu. Neu'r daith o Aberaeron i Aberystwyth ar hyd yr arfordir.

  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

  • Barbeciw adre - cyw-iâr, colslo a lot o sôs coch!

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

  • Mynd mas am bryd ffansi gydag Ifan, fy ngŵr. Ac unrhyw beth sy'n gwneud i Jac chwerthin.

  • Pa un yw eich hoff liw?

  • Glas llachar, trydanol.

  • Pa liw yw eich byd?

  • Amryliw.

  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

  • Rhywbeth i'w wneud â hawliau hen bobl - mae hi'n warthus sut mae'r henoed yn cael eu trin yma yng Nghymru.

  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

  • Nag oes, ond mae na lot o syniade wedi bod yn chwyrlïo'n fy mhen wrth i fi gwtsio Jac yn yr orie mân.

  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?

  • Dwi'n cael miliwn o bunnau am sgrifennu hwn - felly mwynhewch!

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn ±«Óãtv Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.