±«Óãtv

Lloyd Jones

Lloyd Jones

  • Enw:

  • Lloyd Jones

  • Beth yw eich gwaith?

  • Sgriblwr.

  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Gwas fferm, newyddiadurwr, gweithio efo'r methedig, darlithydd, gweithio mewn Chamber of Horrors.

  • O ble'r ydych chi'n dod?

  • Bryn Clochydd, Gwytherin ger Llanrwst, ar odre Mynydd Hiraethog.

  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

  • Ger y môr yn Llanfairfechan. Mae'r môr yn bwysig i mi.

  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

  • Dydw i ddim yn cofio'r addysg ond rwy'n cofio'r paffio.

  • Beth wnaeth i chi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dywedwch ychydig amdano?

  • Wedi sgwennu tri llyfr yn Saesneg, rhoddwyd digon o hyder i mi - gan Y Lolfa - i sgwennu llyfr yn y Gymraeg. Rwy'n falch iawn fy mod i wedi gwneud hynny. Llyfr ydyw am ofnau'r oes hon ynghylch y dyfodol, ac mae'n stori serch hefyd.

  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

  • Mr Vogel, Mr Cassini, a My First Colouring Book.

  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

  • The Swiss Family Robinson, mae'n debyg.

  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?

  • Na fyddaf!

  • Pwy yw eich hoff awdur?

  • Dafydd ap Gwilym yw'r meistr.

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • Oes, nifer fawr, pob un wedi newid fy myd ychydig.

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • Rwy'n hoffi barddoniaeth fodern, yn arbennig y to ifanc o ferched dawnus sydd wedi dod i'r fei.

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • Dim ffefryn.

  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

  • Unrhyw un gan yr hen Ddafydd 'na eto.

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • Rwy'n tueddu i wylio rhaglenni yn ymwneud â hanes a chelf ar y bocs; rwy'n hoffi ffilmiau o bedwar ban y byd, heblaw am rwtsh Hollywood.

  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

  • Fedra i ddim neilltuo neb.

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • Yng ngenau'r sach mae cynilo.

  • Pa un yw eich hoff air?

  • Rwy'n licio geiriau ormod o lawer i ddewis un.

  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Arlunio.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

  • Dyn bach rhyfedd.

  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

  • Ha!

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Fy nheulu.

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi'n hoffi bod yn rhan ohono?

  • Y diwrnod diwethaf o ryfel yn y byd.

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu ei ofyn?

  • Buaswn i'n licio stwnsian efo fy mherthnasau dros y canrifoedd.

  • Pa un yw eich hoff daith a pham?

  • Unrhyw le yng Nghymru - rwyf wedi cerdded reit o amgylch Cymru ac ar draws y wlad wyth gwaith.

  • Beth yw eich hoff bryd bwyd?

  • Bwyd 'di bwyd i mi. Mae o'n obsesiwn efo pobol.

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

  • Nap yn y pnawn.

  • Pa un yw eich hoff liw?

  • Glas (hen liw arferwyd ei weld yn yr awyr).

  • Pa liw yw eich byd?

  • Eh?

  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

  • Na, gewch chi basio'r deddfau.

  • A oes gennych chi lyfr arall ar y gweill?

  • Nagoes. (Diolch i Dduw medd pawb).

  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?

  • Daeth yr amser i dawelu...

Mehefin 2009


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn ±«Óãtv Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.