±«Óãtv

John Roderick Rees

John Roderick Rees

Yn 2009 bu farw y bardd, tyddynnwr ac athro John Roderick Rees. Ar ddiwedd blwyddyn bu Gwyn Griffiths un o'i hen ddysgyblion yn hel atgofion am gymeriad nodedig iawn.

07 Ionawr 2010

Daeth John Roderick (Jack) Rees yn athro Cymraeg Ysgol Uwchradd Tregaron, y Pasg 1957, y tymor yr oeddwn i yn wynebu arholiadau Lefel O.

Nid oedd yn fwriad gen i wneud Cymraeg Lefel "A" ond bu hynny o gysylltiad fu rhyngom y tymor byr hwnnw yn ddigon i beri i mi newid fy meddwl a chwrs fy mywyd.

Ddydd Sul, Tachwedd 29, dychwelais i'm hen ysgol i gyfarfod o werthfawrogiad o'i fywyd. Roedd neuadd yr ysgol yn gysurus lawn o gyn ddisgyblion, cymdogion, prifardd neu ddau a phobol y Cobiau Cymreig a'r Merlod Mynydd.

Prin ugain mlynedd y bu'n athro yn Ysgol Tregaron. Derbyniais lythyr eitha hir oddi wrtho ddechrau 1978 yn fy llongyfarch ar gyhoeddi llyfr ac yn diolch i mi am fynegi fy nyled iddo a'r dylanwad a gafodd arnaf.

Gadael i ofalu

Rhoes y gorau i'w yrfa'n sydyn beth amser cyn hynny i ofalu am Jane, morwyn y teulu, a'i magodd wedi marw ei fam ac yntau'n blentyn bach.

Clywais yn y cyfarfod fel y daeth y newydd i'r ysgol un prynhawn fod Jane wedi ei tharo'n wael a bod Jack wedi rhuthro adre. Ddaeth e byth yn ôl ond dychwelyd i Bear's Hill, i'r tyddyn lle'i ganed ac i ofalu amdani.

Hanes blynyddoedd olaf Jane sydd yn y bryddest Glannau a enillodd Goron Y Rhyl iddo.

Rhywbeth yng nghanol cyfnodau o dyddynna fu coleg a swyddi athro iddo. Rwy'n bur sicr iddo adael Ysgol Tregaron yn bymtheg oed i ffermio gyda'i dad ac fel disgybl allanol Ysgol Uwchradd Aberaeron y safodd ei arholiadau Lefel "O" ac "A".

Yr oedd ganddo feddwl uchel o JT Owen, prifathro Ysgol Aberaeron, a roddodd lawer iawn o anogaeth - a sawl cadair eisteddfodol - iddo.

I'r coleg

Aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, naw mlynedd wedi ymadael ag Ysgol Tregaron a chael Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg. Fe'i hanogwyd i wneud anrhydedd Saesneg wedyn a chredir y buasai wedi cael Dosbarth Cyntaf yn y pwnc hwnnw, hefyd.

Yn hytrach, aeth yn ôl i ffermio am dair blynedd cyn mynd yn athro yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Wedi tair blynedd yno yr aeth i Dregaron.

Gŵr mwyn oedd e a fawr o ddisgyblwr. Ond yr oedd ganddo fantais fawr. Un ohonon ni oedd e, un o blant y wlad, tyddynnwr ymysg plant tyddynwyr. Dyn mart a sioe, dyn ceffylau - a bardd mewn cymdeithas oedd yn parchu beirdd.

Ac yr oedd ganddo yntau barch i'w ddisgyblion. Yr oedd ei ddiddordeb ynom y tu hwnt i ddim a brofais gan unrhyw athro neu athrawes arall - heblaw prifathrawes fy hen ysgol gynradd - nac a welais ymysg athrawon fy mhlant.

Cofiaf nodyn a sgrifennodd unwaith ar ddiwedd traethawd o'm gwaith.

"Sylwaf eich bod yn gwneud defnydd da o'r llyfrgell - mae hyn i'w weld yn natblygiad eich arddull."

Cymaint oedd diddordeb Jack Rees yn ei ddisgyblion nes mynd i'r drafferth o edrych drwy gardiau'r llyfrgell i weld beth oedden ni'n ddarllen!

Heb ei ail am ysbrydoli

Ni fu ei debyg am ysbrydoli ei ddisgyblion i lenydda. Cofiaf ei anogaeth i farddoni a'r profiad o weld soned o'm gwaith - wedi peth cymhennu gan Jack, siŵr o fod - yng ngholofn Meuryn yn Y Cymro. Tipyn o ysgogiad i grwtyn 17 oed i ddal ati! Er mai rhoi'r gorau i farddoni wnes i yng nghanol fy ugeiniau.

Nid anghofiaf byth ei wersi ar Hen Atgofion W. J. Gruffydd, a Gweledigaethau Cwrs y Byd Elis Wyn.

Cofiaf Gruffydd yn un o'r ysgrifau yn sôn sut y bu mewn iselder ysbryd am ddyddiau wedi darllen adolygiad na ddisgwyliasai fod wedi darllen ei debyg "hyd yn oed yn y dyddiau cyn Lewis Edwards".

"Adolygiad Saunders Lewis o Ffrainc a'i Phobl R T Jenkins oedd hwn'na," meddai Jack wrthym. Nid y byddai'r wybodaeth o dragwyddol bwys i ni, ond rywsut gwnâi inni deimlo fod yn ein meddiant ryw gyfrinach fawr.

Os oedd awydd arnom am hoe ambell brynhawn yn un o'i wersi nid oedd angen mwy na holi hynt ei farch Brenin Gwalia neu am gerdd gipiodd gadair eisteddfodol iddo y Sadwrn cynt a dyna ni'n iawn am awr fach dawel.

Tynnu'r stops

Medrai dynnu'r stops allan, hefyd. Cofiaf y prifathro, Dai Lloyd Jenkins, prifardd arall oedd hefyd yn un o blant y fro, yn ein tywys drwy ran o'r cwrs Lefel "A" gan fynnu gwneud Blodeugerdd y Ddeunawfed Ganrif gyda ni - Goronwy Owen, Ieuan Brydydd Hir, Edward Richard, y Morrisiaid, Iolo Morganwg ac ati.

Ond roedd Lloyd Jenkins wedi edrych ar sylabws y flwyddyn cynt a chyda dydd yr arholiad yn prysur agosáu yr oeddem heb astudio hanner y cerddi. Daeth Jack i'r adwy a charlamu drwy weddill y cerddi a bu popeth yn iawn.

Cerddi'r Ymylon oedd ei gyfrol gyntaf. Cerddi am fywyd tir ymylol y Mynydd Bach. Ac os oedd yn athro canolog i fywydau nifer fawr iawn o'i ddisgyblion, fel bardd, gŵr yr ymylon oedd e.

Ac er y bu nythaid o feirdd Mynydd Bach, fel ag y bu yn Ffair Rhos a godre Ceredigion, nid oedd Jack yn aelod o unrhyw glic.

Cafwyd teyrngedau cynnes ac annwyl iddo gan Y Parch Stephen Morgan, Bronwen Morgan, un o'i ddisgyblion sy'n Brif Weithredwraig Ceredigion, Tomi Jones fu'n gyfaill gydol oes iddo, y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, Lyn Ebenezer fu hefyd yn gyn ddisgybl a William Lloyd o Gymdeithas y Cobiau Cymreig.

I Gaerdydd

Fy hunan, cefais gwmni'r Prifardd Cyril Jones ar y daith i Dregaron. Un o blant Ysgol Uwchradd Aberaeron oedd Cyril ond Jack oedd ei athro barddol a byddai'n ymweld ag e'n gyson ar nos Sul am wersi. Ac ar y topiau yna, rhwng Penuwch a Bethania, a rhwng Tregaron ac Aberaeron yr oedd ei filltir sgwâr.

Dywedodd Hywel D Roberts, Pennaeth yr Adran Addysg yng Ngholeg Addysg Caerdydd, wrthyf unwaith iddo ymbil ar Jack Rees i ddod yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Nghyncoed. Hywel Roberts oedd prifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth pan fu Jack yn athro yno.

Rwy'n siŵr y bu Jack yn gwrtais iawn yn gwrthod ond mae'n anodd credu i'r prifardd / dyddynnwr o'r Mynydd Bach ystyried am funud ymadael â'i fro.
A beth am Frenin Gwalia?


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn ±«Óãtv Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.