±«Óãtv

Elin Meek - addasu llyfrau

Elin Meek

Cymharodd Elin Meek y gwaith o addasu llyfrau o iaith arall i wneud croesair.

"Rwy'n ei weld i gyd fel rhyw fath o groeseiriau mawr - yr ydych yn ffeindio'ch ffordd trwy wahanol frawddegau a gobeithio wedyn y byddan nhw yn sefyll fel brawddegau Cymraeg da a bod naws y peth yn Gymreig," meddai wrth gael ei holi ar Raglen Gaynor Davies, Ionawr 17, 2007.

Eu gwneud yn Gymreig
Nid yn unig mae Elin yn awdur ei hun ond y mae hefyd wedi addasu nifer fawr o lyfrau Saesneg i'r Gymraeg.

Eglurodd mai ei nod wrth drosglwyddo stori o un iaith i'r llall yw addasu'r testun yn hytrach na'i gyfieithu a bod hynny weithiau yn golygu newid lleoliadau hyd yn oed er mwyn eu gwneud yn fwy cyfarwydd i ddarllenwyr Cymraeg.

"Beth rwy'n trio'i wneud yw gosod y peth mewn cyd-destun Cymreig," meddai.

Dywedodd ei bod hefyd yn newid enwau cymeriadau i'r diben hwnnw - ond ychwanegodd nad yw hynny'n cael ei ganiatáu gyda llyfrau Roald Dahl a hynny weithiau yn peri trafferthion iddi.

Casau'r dechrau
Wrth sôn am sgrifennu ei llyfrau gwreiddiol ei hun dywedodd: "Dwi ddim yn hoffi'r dechrau - rwy'n casau dechrau a dweud y gwir," meddai.

Disgrifia hefyd sut y gall syniadau newid wrth i'r sgrifennu fynd rhagddo.

"Mae rhyw fath o egin syniad ac rwy'n cynllunio yn weddol fanwl ond wrth sgrifennu mae bylchau yn dod i'r amlwg ac yn aml iawn mae'r stori yn mynd i gyfeiriad gwahanol neu mae cymeriadau unigol yn mynd i gyfeiriad gwahanol," meddai.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn ±«Óãtv Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.