±«Óãtv

Elgan Philip Davies

[an error occurred while processing this directive]

Er iddo fod yn ysgrifennu ers ugain mlynedd erbyn hyn dywed Elgan Philip Davies fod mynd ati i 'ddechrau' sgrifennu yn dal yn her iddo.

Yn siarad gyda Gaynor Davies ar ±«Óãtv Radio Cymru dywedodd y bydd yn chwilio am bob math o fân jobsus er mwyn osgoi'r dechrau.

"Unwaith mae'r peth wedi dechrau dod mae rhywun am fynd ati i roi'r peth i lawr tra bo'r peth yn fyw - ond 'Y Cychwyn' yw y peth. Mae rhywun yn gallu gwneud unrhyw beth ond ysgrifennu - fel jobsus bach o gwmpas y tÅ·," meddai.

Pan oedd ei blant ei hun tua saith neu naw oed y dechreuodd Elgan sgrifennu i ddechrau o weld fod bwlch yn y deunydd oedd ar gael.

Gwelai brinder nofelau doniol i blant er enghraifft.

Ond er yn sgrifennu gyda'i blant ei hun mewn golwg dywedodd nad oedd yn profi'r llyfrau arnyn nhw a gofyn eu barn cyn eu cyhoeddi.

"Doeddwn i ddim digon dewr i hynny," meddai.

Erbyn hyn mae yn awdur nifer o lyfrau ditectif llwyddiannus hefyd a dywed mai ei ddull o weithio ar hyn o bryd yw cyhoeddi llyfr i oedolion a llyfr i blant bob yn ail.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn ±«Óãtv Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.