±«Óãtv

Catrin Dafydd

Enw?
Catrin Dafydd

Beth yw eich gwaith?
Ymchwilydd i'r Aelod Seneddol Adam Price a'r Aelod Cynulliad Rhodri Glyn Thomas.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Dwi'n ymweld ag ysgolion fel storiwraig a bardd, yn perfformio cymeriad Evita Morgan o Batagonia ac wedi bod yn llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.

O ble'r ydych chi'n dod?
Gwaelod y Garth. Hanner ffordd rhwng Pontypridd a Chaerdydd.

Lle'r ydych chi¹n byw yn awr?
Yng Nghaerfyrddin.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, ar y cyfan. Doeddwn i ddim yn cael digon o ryddid i feddwl yn greadigol. Dwi'n meddwl bod hynny'n wendid yn y system addysg.

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Fy nofel gynta' i ydy hi a Pili Pala yw ei henw. Nofel sy'n dilyn trywydd Anest Gwyn i'r Eidal. Yno, mae'r stori yn datblygu a chawn weld bywydau llu o gymeriadau yn ymddatod yn llygad yr haul.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim eto, ond mae 'na bethau ar y gweill.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Cerddi T Llew Jones a gwaith Roald Dahl i oedolion - The Wonderful Story of Henry Sugar, Switch Bitch ac ati.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Dwi'n darllen ambell ddarn o bryd i'w gilydd ac maen nhw'n dal i fod yn wych.

Pwy yw eich hoff awdur?
Wil Garn, Milan Kundera, Gabriel Garcia Marquez. Gormod i'w henwi mewn gwirionedd.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
The Unbearable Lightness of Being - Milan Kundera. Coming Through Slaughter - Michael Ondaatje.

Pwy yw eich hoff fardd?
Gwyneth Lewis, Gwyn Thomas, Owen Sheers ac Ifor ap Glyn.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Does dim modd i mi ddewis hoff gerdd.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Ni wnawn, wrth ffoi am byth o'n ffwdan ffôl,/ Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn ôl. (Dychwelyd, T H Parry-Williams)

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Fy hoff ffilm yw Wag The Dog a fy hoff raglen deledu yw Sex and the City.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Fy hoff gymeriad yw'r wraig yn The Wife of Bath gan Chaucer. Mae hi'n gymeriad gwych. Fy nghas gymeriad yw'r wrach yn 'The Witches'. Braidd yn ystrydebol efallai, ond mae hi'n codi gwrychyn.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Cadwa'th gyfrinachau. Mae gan gyfaill, gyfaill.

Pa un yw eich hoff air?
Cnotiog.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Gallu chwarae jazz ar y piano neu'r trymped.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Anystywallt,
Chwilfrydig
Awyddus.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Gormod i'w rhestru. Yn eu plith, mod i'n orfeirniadol ohonof i fy hun ac eraill.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Y gantores Nina Simone am mai hi oedd y ddynes fwyaf talentog yn yr ugeinfed ganrif ac am iddi ymuno yn yr ymgyrch gwrth apartheid a chynrychioli'r bobl.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Cyffro a newidiadau 70au'r 20fed ganrif a chael profi cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Iolo Morganwg - lle ges ti'r amser a lle ddiawl ges ti'r syniadau?

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith o Lanberis i Aberdaron i weld Ynys Enlli lle'r oedd fy nghyndeidiau i'n byw a'r daith gerdded i fyny mynydd y Garth a chael gweld Caerdydd a'r cyffiniau o'r copa.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Hors d'Oeuvres diddorol i ddechrau (tipyn o bob dim!), Paella cig a physgod a chrymbl fy Mam-gu gyda chwstard i bwdin. Does dim i guro crymbl Mam-gu.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Dwi'n hoffi rhedeg, darllen a chwrdd â ffrindiau ond ceisio barddoni sy'n rhoi'r mwyaf o bleser.

Pa un yw eich hoff liw?
Mae'n debyg mai glas er fy mod i wrth fy modd â gwyrdd ar hyn o bryd.

Pa liw yw eich byd?
Dibynnu pa ddiwrnod o'r wythnos yw hi. Mae pethau'n dueddol o droi'n fwy lliwgar pan ddaw'r penwythnos!

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf Iaith Newydd, wrth gwrs! Mae'n hen bryd ei chael hi. Mae'r ddeddf bresennol yn wan ac mae'n rhaid sicrhau hawliau pawb o bobl Cymru. Mae gan unrhyw un sy'n dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw hawl ar y Gymraeg.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, un Saesneg ac un Cymraeg a dwy ddrama. Dwi'n ffodus hefyd i fod yn gweithio ar gyfrol o farddoniaeth gyda chriw o feirdd eraill. Byddwn ni'n teithio dros Hydref 2006.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Ond nid fel 'na roedd hi fan hyn.


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn ±«Óãtv Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.