±«Óãtv

Caryl Lewis

09 Mai 2007

Pan fo hi wedi anghofio ei nofel ddiwethaf yn y tÅ· - dyna pryd mae Caryl Lewis yn gwybod ei bod hi'n iawn iddi ddechrau sgrifennu'r nesaf!

Yn sicr o fod ein nofelydd cyfoes mwyaf poblogaidd yr oedd Caryl yn siarad yng Ngŵyl Bedwen Lyfrau 2007 yng Nghaernarfon am ei nofel ddiweddaraf, Y Gemydd, ac am ei ffordd o sgrifennu.

Yn cael ei holi gan Alun Jones, ei golygydd yng ngwasg Y Lolfa, datgelodd ei bod hi'n mynd â'i nofel ddiwethaf gyda hi i bobman unwaith y mae wedi ei chyhoeddi.

"Bob tro rydw i'n cyhoeddi nofel rydw i'n i chario hi yn fy mag - mae'n rhyw fath o safety blanket sy gyda phlentyn - neu dedi bêr," meddai.

"A'r diwrnod rydw i'n anghofio'r llyfr yna gartref yw'r diwrnod rwy'n barod i ddechrau eto."

Fel cael plentyn
Ac aeth yn ei blaen i gymharu sgrifennu a chyhoeddi nofel i gael plentyn.

"Beth sy'n anodd efo nofel yw eich bod chi'n ei gweld yn eich pen ac yn gobeithio y bydd pobl yn ei gweld yr un fath ac yn aml does gennych chi ddim rheolaeth dros hynny," meddai wrth Alun Jones.

"Mae e fel cael plentyn - dydw i ddim wedi cael plentyn! - ond rwy'n teimlo eich bod yn ei ddysgu fe ac yn ffurfio'r plentyn yna ac wedyn rych chi'n i wthio fe mas i'r byd ac os yw'r plentyn yna wedi'i ffurfio'n iawn fe ddylai fedru ateb drosto'i hun heb i chi fod yn ateb drosto fe; a fel'na dwi'n gweld llyfre; a phan ydych chi'n agor y drws a gwthio'r plentyn na mâs mae yna bobl allan yna yn barod amdano fe.

"Mae e wastad yn rhoi pryder imi ac mae'n rhaid ichi fod yn hapus a beth ydych chi wedi' wneud.

"Eich amcan chi wrth ddechrau nofel - os ydych chi'n teimlo ei bod wedi cyrraedd hynny mae'n rhaid ichi fod yn hapus a dyna ydw i'n anelu ato drwy'r amser," meddai.

Yn Saesneg
Daeth Caryl Lewis i fri anhygoel gyda'i nofel gyntaf, Martha Jac a Sianco a gyhoeddwyd yn 2006 a'i dewis yn Llyfr y Flwyddyn.

Clawr Martha Jac a Sianco

Ond datgelodd mai Saesneg oedd ei chychwyn:
"Fe fues i'n sgrifennu straeon yn Saesneg am y math yma o gymeriadau ond y broblem yn Saesneg oedd fod straeon am y math yma o gymeriadau yn troi'n James Herriot yn sydyn iawn, iawn, iawn, ac fe wnes i rhoi nhw yn y drôr ac anghofio amdanyn nhw," meddai.

Ychwanegodd mai ymgais ar ei rhan, wedi iddi ddychwelyd i fyw yng nghefn gwlad, i uno dwy Gymru - Cymru Canolfan y Mileniwm a Chymru cefn gwlad a barodd iddi ailafael ym mhethau.

"Wrth symud nôl i gefn gwlad ac wrth weld, pan ych chi'n ifanc - rydych chi'n twenty something ddwedwn ni ac wedi cael addysg a da chi fod yn rhan o'r Gymru fodern newydd Canolfan y Mileniwm 'ma: a sut oeddwn i'n uniaethu y Gymru oeddwn i fod yn rhan ohoni a'r Gymru oeddwn i'n i gweld bob dydd lle'r oedd y bobl yma oeddwn i'n dod ar eu traws nhw bob dydd - roeddwn i'n methu'n deg ag uniaethu'r ddau yna," meddai.

" Darlun y fuwch
Un o'r 'darluniau' mwyaf cofiadwy yn y nofel honno yw un o fuwch yn cnoi a difetha ei thethi wrth sugno'i hun.

"Mae o'n rhywbeth sydd yn digwydd ambell waith ond roeddwn i'n i weld fel symbol o rywun yn torri cylch naturiol pethau fel y gwnaeth y fam yn y nofel. Wrth eu cadw nhw yno mae fel pe byddai yn stagnatio y cyfan ac unwaith mae hynny'n digwydd mae yna oblygiadau ofnadw," meddai.

"Dwi'n cofio methu cysgu y noson honno yn meddwl am y ddelwedd yma o'r du a'r gwyn a'r gwaed - roedd rhywbeth mor erchyll ynddo yr oeddwn yn ei weld fel canolbwynt i angori stori," meddai.

Hoffi arlunio
A hithau'n un sy'n hoff o arlunio dywedodd bod 'darluniau' o'r fath yn bwysig yng ngwneuthuriad ei gwaith.

"Dwi'n cofio mynd am dro ar lan y môr ac roedd sêr môr wedi'u golchi i'r lan i gyd ac roedd yna garped ohonyn nhw am filltiroedd. Roedd e mor drawiadol roeddwn i'n teimlo mod i'n cerdded ar y sêr a'r byd ben i waered.

"Pethau bach fel'na ych chi'n gofio ac rydych chi'n gallu eu defnyddio rhyw dro eto," meddai.

Ond ychwanegodd nad yw'n eu cofnodi ar bapur i'w diogelu.

"Am y rheswm; os yw rhywbeth werth ei gofio fe gofiai. Os yw rhywbeth wedi gwneud argraff fawr arno chi fe wnaiff e godi rywdro eto - yn hytrach na'ch bod yn rhestru pethau i'w defnyddio nes ymlaen," meddai.

Gyda gwreiddiau - heb wreiddiau
Cymeriadau cefn gwlad a'u gwreiddiau'n ddyfnion y tir oedd rhai Martha Jac a Sianco ond mae Y Gemydd yn nofel go wahanol o ran antur ac adeiladwaith - yn nofel sy'n ildio ei chyfrinachau yn gyndyn yn ôl un adolygydd.

Dywedodd Caryl Lewis fod sawl rheswm iddi benderfynu troi i gyfeiriad trefol, gwahanol:

"Roedd yna sawl rheswm ond gan mod i'n sgwennu dipyn am gefn gwlad roeddwn i'n meddwl mae'n bosib ichi gael eich stereoteipio fel awdur gwledig," meddai.

Ac aeth i lan y môr meddai "oherwydd dyna lle mae atgofion fy mhlentyndod i".

Clawr Y Gemydd

"Yr oedd hwnna yn benderfyniad a wnes i yn ymwybodol ac roeddwn i hefyd yn meddwl, beth am ochr arall y geiniog beth am gymeriadau sydd heb wreiddiau falle a mynd i'r gwrthwyneb - a chwilio'r posibiliadau yna," meddai.

Dywedodd mai darllen The Ballad of Reading Jail gan Oscar Wilde oedd y man cychwyn ac yn arbennig y llinellau'r bardd mai dim ond trwy dor calon mae dod i adnabod Iesu Grist.
How else but through a broken heart
May Lord Christ enter in?

"A wnes i feddwl; Am ddelwedd ryfedd - fod rhywbeth yn gorfod torri cyn ichi ddod i adnabod Duw fel petai.

"Ac fe sticiodd hwnna gyda fi am fisoedd wedyn a dechrau meddwl am y math o gymeriad fyddai'n mynd ar y siwrnai yma a dyna lle dechreuodd Mair fel cymeriad."

Y mae lleoliad y nofel ar lân y môr o arwyddocâd hefyd:
"Mae cymeriadau yn Y Gemydd yn delio efo detritus bywyd - pethau sy'n cael eu golchi lan ar y traeth. Mae yna olygfeydd lle maen nhw yn llythrennol ar y traeth, ar yr ymylon rhwng y môr a'r tir - rhyw fath o no man's land ac roedd hwnna yn bendant yn rheswm am ei lleoli hi lle mae hi," meddai.

Ar ben hynny, dywedodd fod Mair yn y nofel yn ofni'r môr am ei fod yn rhywbeth na all ei reoli," meddai.

Treulio cyfnod gyda cemydd
Tra'n ymchwilio ar gyfer y nofel dywedodd iddi dreuliodd cyfnod yn gweithio gyda gemydd go iawn ym marced Caerfyrddin.

"Mae'n fenyw hynod," meddai, "ac yn trwsio gemau hefyd."
A hynny'n atgoffa Caryl o'r adeg pan oedd hi yn ferch ifanc a'i Mam yn casglu hen gelfi i'w haddasu a'u hadfer.

"Dwi wastad yn cael problem gyda phethau hen! Roedd Mam wastad yn stwffio rhyw soffa. Fe fyddai hi'n pigo ni lan o'r ysgol mewn Fiat pea green efo soffa yn hongian allan o'r cefn ac roedd cywilydd rhyfedda gen i ond roedd hi wastad a rhyw brosict on the go," meddai.

Credai'r gemydd y bu yn ei chwmni hefyd mai gemau sy'n dewis pobl nid pobl yn dewis y gemau.

Ychwanegodd bod rhai gemau yn siwtio rhai pobl ac eraill ddim.
"Os ydych chi'n berson nwydus peidiwch a gwisgo rhuddem neu bydd yn eich gwneud yn fwy nwydus," meddai.

Weth sôn am emau soniodd hefyd am yr addewidion - "addewidion go fawr" - y mae pobl yn eu gwneud ar gefn gemau mewn modrwyau ac ati.

"Yn y farchnad roedd yna bobl oedd yn dod a phrynu modrwy ddyweddïo ac roedd yna ddynion a menywod gweddw yn dod nôl a gwerthu'r gemau ar ôl i rywun farw. Ac roedd y gemau yna yn mynd ymlaen at rywun arall fel addewid arall ac roeddwn i'n meddwl fod hynna yn ddiddorol - ceisio gwau stori o'u hamgylch," meddai.

Pobl y farced
Am bobl y farchnad dywedodd:
"Maen nhw'n bobl ddiddorol. Oes, mae yna gymdeithas glos yna ond maen nhw'n cadw'u hunain at eu hunain hefyd.

"Beth oedd yn ddiddorol pan oeddwn i yno oedd mynd i wrando arnyn nhw yn siarad â'i gilydd. Yn amlwg mae ganddyn nhw rhyw gôl o beidio a chau'r farchnad ac mae hwnna yn eu clymu nhw ond eto maen nhw yn bobl eithaf swil, rhai ohonyn nhw.

"Maen nhw'n dewis gweithio ar eu pen eu hunain. Hunan gyflogedig ydyn nhw ond yn gorfod gweithio efo pobl eraill - ysgwydd yn ysgwydd â phobl eraill,.

"Felly, mae rhyw ddeuoliaeth. Oes mae yna gymuned ond eto cymuned o unigolion yw hi ac roeddwn i'n meddwl fod hwnna yn rhywbeth diddorol," meddai.

O'i safbwynt hi fel nofelydd dywedodd mai'r hyn sy'n dda ac yn hwylus yngl?n â lle fel marchnad yw bod pobl wahanol o bob lliw a llun yn ymwneud â'i gilydd yn gwbl naturiol yno.

"Mae hwnna'n hwylus iawn os yn sgrifennu nofel oherwydd dydych chi ddim yn gorfod ffeindio ffordd o gael y cymeriadau yma at ei gilydd gan eu bod yn dod at ei gilydd yn naturiol."

Datgelodd hefyd i'r Gemydd fod yn nofel wahanol iawn i Martha Jac a Sianco i'w sgrifennu:
"Doedd dim cynllun gynno fi [ar gyfer MJaS] ac fe wnes i sgwennu honno o bennod i bennod ond fe ddes i nôl at hon yn ychwanegu pethau.

"Roeddwn i lan i bennod 25 ac nôl wedyn i bennod tri a mlaen wedyn i bennod 28, nôl wedyn i 25 yn ychwanegu pethau drwy'r amser," meddai.

A chan ei bod, meddai, yn sgrifennu llawer gyda phobl nad ydyn nhw'n hoffi darllen mewn golwg; "Weithiau mae'n braf sgwennu rhywbeth i blesio'ch hunan hefyd," meddai.

Yr oedd Gŵyl Bedwen Lyfrau 2007 yn Galeri Caernarfon, Mai 5.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn ±«Óãtv Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.