±«Óãtv

Beca Brown

Enw?
Beca Brown.

Beth yw eich gwaith?
Awdur, colofnydd a chyfarwyddwr teledu.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Newyddiadurwr, cyflwynydd teledu.

O ble'r ydych chi'n dod?
Dyffryn Ardudwy, Meirionydd.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Llanrug, ger Caernarfon.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do ar y cyfan, ro'n i'n lwcus iawn i gael athrawon Cymraeg da iawn wnaeth danio fy nychymyg lle mae ysgrifennu Cymraeg yn y cwestiwn (diolch Dewi Jones a Dr. Medwyn Hughes, a sori am fod mor bolshi!) Dydw i ddim yn dda iawn gydag awdurdod, felly roedd pethau fatha iwnifform a rhyw fân reolau ysgolaidd yn dueddol o wneud imi ddechrau petisiwn.

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Hanes Glyn Wise a ddaeth yn ail yn Big Brother y llynedd ydi Blwyddyn Fawr Glyn Wise. Mae'r llyfr yn ei eiriau ei hun, yn seiliedig ar gyfweliadau efo fi. Mae o'n gofnod difyr o beth ydi o i fod yn hogyn ifanc yn yr oes sydd ohoni, lle mae enwogrwydd a'r byd tabloid yn denu.
Mae Glyn yn ddeuoliaeth ddifyr, gan ei fod ar un llaw yn chwennych lle yn y byd selebriti Llundeinig, ac eto mae o'n hogyn hen ffasiwn, traddodiadol sydd yn agos i'w wreiddiau. Ac mae o'n uffar o ges!

Mae o'n llyfr i bobol yn eu harddegau yn bennaf, ond mae o hefyd yn stori 'boy-to-man', a fydd yn ddifyr i riant ei ddarllen, wrth iddyn nhw lywio'u plant drwy eu harddegau.

Fy ngobaith wrth wneud y llyfr oedd rhoi golwg newydd ar Glyn a'r byd teledu realaeth, a denu pobol sydd ddim fel arfer yn darllen llyfrau Cymraeg i wneud hynny, a dwi'n gwybod mai dyna oedd bwriad Glyn hefyd.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Nofel o'r enw Corcyn Heddwch, Gwasg Carreg Gwalch. Ac mae 'na un arall ar y gweill!

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Just William, Tom Sawyer a Huckleberry Finn, Famous Five, Secret Seven, Swallows and Amazons, Judy Blume, Cwlwm Cêl a Luned Bengoch.

A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
Fyddai'n dal i wrando ar storis William ar dâp yn y car o dro i dro, ond dyna ni. Ella ddoi n6ol atyn nhw wrth i mhlant i dyfu.

Pwy yw eich hoff awdur?
Dwi ddim yn un i ddarllen bob dim mae un awdur wedi ei sgwennu, er, wedi dweud hynny, dwi wedi darllen bob dim gan Charles Bukowski. Ar hyn o bryd dwi'n darllen Ed Reardon's Week, a dwi'n bwriadu darllen lot fawr iawn ar Ynys Enlli, tra dwi yno ar fy ngwyliau yr haf yma.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Mae yna lot o betha yn dylanwadu ac yn creu argraff arnai. Dramâu teledu sydd yn sôn am bethau anodd eu trin a hynny yn effeithiol, dogfennau bywyd go iawn yn rhoi cip ar fywyd sydd fel arfer yn gudd, profiadau personol, profiadau ffrindiau.

Un llyfr sydd yn aros yn cof yw We Need To Talk About Kevin gan Lionel Shriver, oedd yn llyfr hynod o ddewr yn trafod rhai o tabws mwyaf cymdeithas.

Pwy yw eich hoff fardd?
Hoff iawn o Twm Morys, Gerallt, TH, Gwyn Thomas ac unrhyw un sy'n gneud imi chwerthin ar y Talwrn.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Celwydd gan TH Parry Williams, ac Y Dyn Pestri gan Gwyn Thomas.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
'Rhwng pob rhyw ddau a fu erioed yn y byd, ni fu ond anwiredd, dyna i gyd.' (Celwydd).

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Short Cuts gan Robert Altman, Talcen Caled, Con Passionate, Desperate Housewives, Extras, rhaglen ddogfen dda, drama one-off dda.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff: Mr. Bumble yn The Importance of Being Earnest. Cas: Dwi'm yn meddwl mod i'n casau neb...

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
"Twll di twll yn twllwch".

Pa un yw eich hoff air?
Brashar.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Canu a dawnsio a chadw t? trefnus.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
µþ±ôê°ù,
cariadus,
prysur.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Mod i'n rhoi atebion gwirion mewn holiaduron ac yn difaru wedyn.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Fy mhlant. Beth bynnag sy'n digwydd maen nhw wastad yn derbyn petha fel maen nhw gyda sirioldeb ac maen nhw'n gweld y da ym mhawb a phopeth. (Daw'r hen fyd 'ma a nhw at 'u coed!)

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Yr unig ferch yn giang Merched Beca.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Y dywysoges Gwenllian. Fyswn i'n licio gofyn sut fywyd gafodd hi yn Sempringham ac a oedd hi byth yn gwybod rhywle yng ngwaelod ei bod mai tywysoges o Gymru oedd hi.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Trwy Rhyd Ddu. Lle godidog.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Jalfrezi poeth.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Treulio amser efo mhlant (os 'dyn nhw mewn hwyliau da!) Mynd am dro, reidio beics, nofio, mynd i barciau antur. Os dwi'n cael amser ar fy mhen fy hun mi fyddai'n jogio, mynd i'r gym, darllen papura newydd, gwatsiad rwtsh ar y teli.

Pa un yw eich hoff liw?
Pinc! (Mae gen i ferch bump oed, oes gen i ddewis?!)

Pa liw yw eich byd?
Brown!

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Rheoli'r farchnad dai yn y gogledd yma wrth gwrs, a'i gwneud yn anghyfreithlon i bobol basio barn ar sut da chi'n magu'ch plant.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes. Well imi crac on yn dydi!

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel?
Dwi'm am ddeud, 'cofn i ryw ddiawl ei ddwyn o!

  • Blwyddyn Fawr Glyn Wise. Carreg Gwalch. £7.50

  • Mwy

    A - Z llyfrau

    Pori gwefan Cylchgrawn ±«Óãtv Cymru

    Ffilm

    Rhys Ifans

    Pobl y sgrin

    Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

    Theatr

    Llion Williams

    Barn a gwybodaeth

    Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

    ±«Óãtv iD

    Llywio drwy’r ±«Óãtv

    ±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.