±«Óãtv

Aled Rhys Hughes

Enw:
Aled Rhys Hughes.

Beth yw eich gwaith?
Ffotograffydd a darlithydd

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
O ddifri, dim ond bod yn ffotograffydd!

O ble'r ydych chi'n dod?
Rwy'n enedigol o Ynyshir yn y Rhondda Fach, ond wedi byw yng Nghwmllynfell ac yn Rhydaman.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Rhydaman

Clawr llyfr Aled

Lle dechreuodd eich diddordeb mewn tynnu lluniau?
Dwn i ddim, ond mae'n bosib mai gan fy nhad y daeth y diddordeb i ddechrau.

Wnewch chi ddweud ychydig am y lluniau yn y llyfr am Waldo?
Gwnes y rhan fwyaf ohonynt yn Sir Benfro rhwng mis Mawrth a mis Mai eleni, ar ôl imi gael comisiwn gan Wasg Gomer. Lluniau wedi cael eu hysbrydoli gan fywyd Waldo, yn hytrach na dehongliadau uniongyrchol o'r lenyddiaeth, ydyn nhw. Mynd i chwilio am fannau cyfriniol, a cheisio gwneud lluniau fyddai'n cyfleu'r teimlad oedd yn y mannau hynny, wnes i.

Pa luniau diddrol eraill ydych chi wedi eu cyhoeddi neu eu harddangos?
Cyfres lluniau Wrth Chwilio am Gantre'r Gwaelod, lluniau a wnaed mewn ymateb i foddi - mae rhai ohonynt wedi eu tynnu yn Nhryweryn. Cyfres Y Dydd Byrraf, lluniau a wnaethpwyd o gamera ar y we, ar Ynys Sgitheneach (Skye) - gafodd eu dangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ysgrifennodd Mererid Hopwood gerdd yn ymateb iddyn nhw!

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfrau lluniau o adar.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf.

Pwy yw eich hoff awdur?
Roland Barthes

Pwy yw eich hoff dynnwr lluniau - a pham?
Peter Finnemore: y ffotograffydd mwyaf gwreiddiol i mi ddod ar ei draws erioed - ac mae'n Gymro Cymraeg!

A oes unrhyw lyfr neu lun wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Llyfr Minor White, Mirrors, Messages, Manifestations.

Pwy yw eich hoff fardd?
R. S. Thomas.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Mewn Dau Gae.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
O ba le'r ymroliai'r mor goleuni...'

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm Bergman, Y Seithfed Sêl,
Ac ar y teledu, The League of Gentlemen.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Lemmy Caution, yn y nofel Alphaville, yw fy hoff gymeriad.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Pawb i bisho drwy'i un ei hun!

Pa un yw eich hoff air?
Nwmenaidd.

Pa ddawn arall hoffech chi ei chael?
Bod yn ieithydd!

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
llysieuwr dwys didwyll.

A oes llun yr ydych yn ysu am gael ei dynnu?
Y nesaf!

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Heb ateb

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn tynnu lluniau yno?
Y Croeshoeliad.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a sut fyddech chi'n ei osod ar gyfer llun?
Alfred Wallis, yr artist o Gernyw, yn eistedd wrth ei ddesg yn peintio.

Pa un yw eich hoff olygfa a pham?
O Ben Tyrcan dros y Mynydd Du - gan fy mod yn gallu gweld yn bell oddi yno.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Nid pryd bwyd, ond pice ar y mâ'n fy mam-gu.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded, darllen.

Pa un yw eich hoff liw?
Porffor.

Pa liw yw eich byd?
Du a gwyn.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Gwahardd
Americanisms!!

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Mae gen i nifer o syniadau, ond dim byd penodol ar hyn o bryd.


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn ±«Óãtv Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.