±«Óãtv

Euros Lewis - Linda (Gwraig Waldo) a Cof a Chalon mewn print

19 Tachwedd 2010

  • Adolygiad Megan Jones o Linda (Gwraig Waldo) a Cof a Chalon gan Euros Lewis. Gwasg Carreg Gwalch. Tud. 139. £5.00

Mae Linda (Gwraig Waldo) a Cof a Chalon gan Euros Lewis yn rhoi'r cyfle i gynulleidfa ehangach fwynhau'r ddwy ddrama hon a berfformiwyd yn wreiddiol yng Ngheredigion gan Gwmni Cydweithredol Troed-y-rhiw.

Portread yw Linda (Gwraig Waldo) o'r ddynes a fu'n byw yng nghysgod un o gewri llenyddol mwyaf Cymru tra bo Cof a Chalon yn cwestiynu ein teimladau tuag at leoliad ac atgofion ynghyd â herio ein barn am y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Clawr y gyfrol

Rhaid cyfaddef bod adolygu dramâu o'u darllen yn hytrach nag o'u gweld ar lwyfan yn anodd iawn gan mai rhywbeth i'w berfformio ac nid i'w ddarllen yw drama.

Petawn i wedi bod yn ddigon ffodus i weld y dramâu hyn ar lwyfan byddai'r actio, y cyfarwyddo a'r llwyfannu wedi creu argraff wahanol i ddarllen y geiriau ar eu pennau eu hunain.

Darlun newydd

Serch hyn, mae Linda (Gwraig Waldo) yn ceisio creu darlun newydd o'r berthynas rhwng Waldo Williams a Linda a darlun crwn a chyflawn o Linda, fel dynes gyda'i meddwl a'i meddyliau ei hun, yn hytrach na 'gwraig Waldo' yn unig.

Rhannol lwyddiannus yw ymgais y dramodydd i wireddu hyn gan nad yw'r ddrama mewn gwirionedd yn cynnwys unrhyw beth newydd am berthynas y ddau.

Nid yw Linda (Gwraig Waldo) yn llwyddo i bortreadu Linda fel cymeriad o gig a gwaed ac nid yw ychwaith yn llwyddo i greu darlun ohoni fel person yn ei hawl ei hun ac ar wahân i'w gŵr.

Diffyg stori

Gwendid y ddrama yw'r diffyg stori neu ganolbwynt cryf. Mewn gwirionedd does dim llinyn storïol cryf i'r ddrama a dyw'r cymeriadau, ychwaith, ddim wedi eu creu yn ddigon eglur a chadarn i gadw sylw'r darllenydd trwy gydol y ddrama.

Ar lwyfan efallai y byddai'r actio yn ddigon i greu ymdeimlad cryfach o gyfanwaith ond ar bapur mae'r ddrama yn ymddangos yn bytiog a braidd yn anhrefnus.

Mae pob golygfa yn fyr iawn gan atal datblygu cymeriad, sefyllfa neu stori ac mae'r defnydd o Linda'r dyfodol yn creu dryswch yn hytrach na dod â dyfnder ychwanegol i'w chymeriad.

Symudiadau

Mae fersiwn print Cof a Chalon yn anos fyth i'w adolygu ac yntau'n ddarn o theatr corfforol yn hytrach na drama draddodiadol.

Mae'r gymysgedd o symudiadau'r actorion a geiriau'r dramodydd yn ceisio dangos y modd y mae pedwar unigolyn gwahanol yn ymdrin ag ystafell wag.

Ond yn fwy na hyn, mae'r dramodydd yn ceisio gofyn cwestiynnau sylfaenol am berthynas, lleoliad, atgofion, y gorffennol a'n perthynas ni gyda phob un o'r rhain.

Unwaith eto, mae Euros Lewis yn ymdrin â nifer o syniadau diddorol ond, unwaith eto, nid yw'n llwyddo i'w datblygu i'w llawn botensial.

Mae cymeriadau'r ddrama hon yn wan iawn. Mewn difri nid ydynt fawr mwy nag enwau heb ddyfnder na gafael.

Yn ogystal, does fawr ddim yn digwydd yn y ddrama. Yn amlwg, nid yw pob drama yn dibynnu ar linyn storïol cryf, traddodiadol, ond mae Cof a Chalon yn brin o stori, cymeriadau cryfion ac o wrthdaro cryf. Mae'n ddrama heb ganolbwynt ac fel Linda (Gwraig Waldo) yn bytiog a dryslyd.

Er yn ceisio ymdrin â syniadau diddorol ac yn ymateb mewn modd newydd a ffres i sefyllfaoedd a theimladau oesol nid yw'r dramâu yn llwyddo ar bapur. Ond efallai bod eu barnu felly'n annheg gan mai llwyfan, wedi'r cwbl, yw gwir gartref pob drama.
Megan Jones


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn ±«Óãtv Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.