±«Óãtv

Manon Rhys - 'Cornel Aur'

Rhan o glawr y llyfr

04 Mai 2010

  • Adolygiad Meg Elis o Cornel Aur gan Manon Rhys. Gomer £7.99.

Mae llên meicro yn ymdebygu mewn llawer ffordd i gelf gysyniadol.

Ar ei orau, mae'n un fflach o ysbrydoliaeth, gweledigaeth yn dallu eich llygaid, a phan ydach chi'n eu hagor eto, mi welwch rywbeth arall, ehangach neu amgenach.

Clawr y gyfrol

Neu mi allwch ddim ond sbïo a gweld dim - gwaith neu gysyniad heb ei ddatblygu.

Dyna'r perygl, wrth gwrs: mae pawb, bron, yn cael syniadau ond mae'n cymryd artist i droi'r syniadau hynny yn gelfyddyd.

Dyna'r union berygl gyda llên meicro - mae'n fach, yn fyr, felly mae sgwenwyr diog a'r sawl sydd wedi arfer gyda rhychwant sylw gwylwyr teledu neu wybedyn (dewiswch chi) yn gweld hyn fel llwybr hawdd i fod yn llenor.

Nid fel yna y mae hi, ac nid dyma'r llwybr a ddewisodd Manon Rhys, fel y tystia ei chyfrolau blaenorol.

Roedd y cynildeb i'w weld yno hefyd: yr un cynildeb sydd mor effeithiol yma mewn darnau fel "rhyfel angenrheidiol" a "caru ti".

Y mae'r darlun hyd yma yn gain, yn gyflawn, ac o'r herwydd yn plesio. Eto, wrth ddarllen, roedd yna ryw dinc, efallai, o annifyrrwch - neu, yn fwy manwl, aneglurder.

Peidiwch a 'nghamgymryd i, mae "cornel aur" yn ddisgrifiad ac yn deitl hollol addas i'r llyfr. Gobeithio imi ddangos eisoes fod y darnau bychain disglair yn aur ac yn aros yn y cof.

Y cyswllt rhwng y darnau sy'n peri trafferth i mi. Nawr, rwyf wedi darllen llenyddiaeth meicro sydd yn ddigyswllt ac eto'n foddhaol. Rwyf wedi darllen llenyddiaeth meicro sydd yn gysylltiedig gain, a chadwyni'r cysylltiad yn loyw - dyma'r aur mewn llenyddiaeth o'r fath, a dyna nad ydw i'n ei weld yma bob tro.

Mae yma safbwynt merch, bywyd benyw, ac rwy'n dyfalu mai dyna'r cysylltiad, yr edefyn - ond a yw'n ddigon o linyn aur neu arian?

Y darnau eu hunain sy'n byw, sy'n gyfanwaith. Gall ddigwydd yn y gyfrol hon gyda cherddi, gyda darnau byrion, bach ("Croesffordd" neu "tre-din") a hefyd gyda rhai mwy estynedig - "Cwyno" - a'r darn wnaeth fwyaf o argraff arna'i, "Cromfachau".

A hyn oll mor wych, mae'n biti nad yw'r cysylltiadau, y syniad sy'n clymu'r darnau at ei gilydd, yn gweithio cystal.

Roeddwn yn darllen y darnau hyn, ac wrth symud i'r nesaf, yn ymdrechu weithiau i ganfod y cysylltiad ac yn cael hynny'n anodd.

Oes, mae yma brofiad menyw, profiad benywaidd yn fwy cyffredinol, hyd yn oed - ond a yw hynny'n ddigon o linyn cyswllt? Doeddwn i ddim yn siwr weithiau ac yn teimlo ar adegau fy mod yn colli cysylltiad.

Dyma fy mhrofiad wrth ddarllen nifer o'r darnau hyn ar un eisteddiad, ac mae'n arwyddocaol hefyd i mi deimlo'r un fath wrth ddod yn ôl i ddarllen wedi rhoi Cornel Aur o'r neilltu am gyfnod.

Ond wedi dweud hynny, hanfod llên meicro llwyddiannus (fel pob llenyddiaeth, yn wir) yw ei fod yn aros yn y cof, ac y mae hynny yn sicr yn wir am gyfran fawr o Cornel Aur.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn ±«Óãtv Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.