±«Óãtv

Clash of the Titans

Rhan o boster y ffilm

07 Ebrill 2010

12Dwy seren allan o bump

  • Y Sêr: Sam Worthington, Liam Neeson, Ralph Fiennes, Gemma Arterton, Mads Mikkelsen, Liam Cunningham, Nicholas Hoult, Pete Postlethwaite, Elizabeth McGovern, Natalia Vodyanova.
  • Cyfarwyddo: Louis Leterrier.
  • Sgrifennu: Travis Beachman, Phil Hay a Matt Manfredi.
  • Hyd: 102 munud

Campus - am ugain munud

Adolygiad Lowri Haf Cooke

I film-geek fel fi, mae rhywbeth reit gyffrous weithiau mewn cyrraedd y sinema'n hwyr gydag eiliadau'n unig i fachu sedd cyn dechre'r ffilm.

Anaml iawn y bydd fy sinema leol i'n llawn ac felly pan sgrialais i fyny'r grisie dros benwythnos y Pasg a chanfod sedd yn y rhes gefn, profais iâs wrth arsylwi'r môr o bobol o'm blaen yn awchu am epig go iawn.

A rhaid dweud, am rhyw ugain munud ni chymrodd Clash of the Titans yr un cam gwag gan gydbwyso effeithiau arbennig gyda chynnwrf sylweddol a sefydlu'r prif thema yn syth bin.

Y neges, yn sylfaenol, yw fod Dyn wedi blino ar y duwiau ac o'r herwydd mae'r duwiau'n flin.

Mae'n wir i droslais Gemma Arterton wibio trwy hanes y duwiau Groegaidd hyn, cyn ein cyflwyno i arwr y ffilm, Perseus - baban gaiff ei achub o'r môr a'i fabwysiadu gan bysgotwr tlawd.

Ond cyn pen dim, profwn y frwydr gyffrous gyntaf 'rhwng Dyn a Duw' wrth i frenin yr Isfyd, Hades, ddial ar filwyr dinas Argos am feiddio dinistrio delw o'i frawd Zeus, a boddi teulu Perseus yn y fan a'r lle.

Cybolfa o enwau

Yn anffodus, mae'r hyn sy'n dilyn yn gybolfa o enwau, wynebau, a helfa go ddryslyd i drechu gelyn pennaf dyn - anghenfil o'r môr o'r enw'r Kraken.

Cywesgir cymaint o chwedlau ac effeithiau arbennig nes anghofio'r peth pwysicaf oll; stori sy'n gneud synnwyr a chymeriadau y gall y gynulleidfa gydymdeimlo â nhw.

Yr unig un gaiff sylw'r cynhyrchiad ydy Perseus, mab Zeus, sy'n mynnu byw fel meidrolyn ac arwain byddin o ddynion i ddifa'r morgi melltigedig.

Yn anffodus, aiff yr holl gymeriadau eraill i ebargofiant gan wynebu dicter Hades, Medusa, scorpions sadistig a thair gwrach hyll, cyn inni gael cyfle i ddod i'w nabod nhw'n iawn.

Digon teg os mai chwedl Perseus yw pwynt y ffilm ond byddai wedi bod yn syniad gwell castio rhywun â bach mwy o garisma na Sam Worthington fel y duw-ddyn - actor o Awstralia sydd hyd yma'n arbenigo mewn chwarae robot a chartŵn, yn Terminator Salvation ac Avatar.

Ymddangosiad chwerthinllyd

Rhaid hefyd crybwyll ymddangosiadau chwerthinllyd Liam Neeson a Ralph Fiennes fel y ddau frawd Zeus a Hades a'r golygfeydd yn llys y 'Nefoedd' yn dwyn i gof rai o benodau gwanaf Star Trek gan gadarnhau mai ceinioge'n unig oedd yn weddill o'r cyllid effeithiau arbennig ar ôl creu'r Kraken.

Ffilmio yng Nghymru - Lloegr

I fod yn deg, mae trac sain Ramin Djawadi yn hynod effeithiol, ac mae rhannau helaeth o'r ffilm yn edrych yn drawiadol iawn, diolch i'r penderfyniad i ffilmio mewn lleoliadau mor wahanol ag arfordir Tenerife, anialdir Ethiopia - a chwarel Dinorwig, Llanberis.

Braf iawn wir oedd gweld y llechi llwyd yn gefnlen i un o'r golygfeydd mwyaf allweddol, wrth i Perseus a'i gatrawd baratoi i wynebu nadroedd Medusa, a llongyfarchiadau mawr i'r Asiantaeth Sgrîn am eu denu yno yn y lle cynta.

Siom o'r mwyaf, fodd bynnag, yw riportio bod y cynhyrchiad canolig hwn yn colli seren ychwanegol am fethu'i arholiad Daearyddiaeth.

Arhosais tan eiliadau olaf y credydau i gael gweld Cymru mewn llythrennau bras ar y sgrin fawr - gan adael yn gegrwth ar ôl darllen y geiriau, "Llanberis, Wales, England".


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.