±«Óãtv

An Education

An Education

09 Tachwedd 2009

12Pedair seren

  • Y Sêr: Carey Mulligan, Sarsgaard, Alfred Molina, Dominic Cooper, Rosamund Pike, Emma Thompson, Olivia Williams. .
  • Cyfarwyddo: Lone Scherfig.
  • Sgrifennu: Addasiad Nick Hornby o hunangofiant Lynn Barber.
  • Hyd: 95 munud

Ysgol profiad merch ifanc

Adolygiad Lowri Haf Cooke.

I rai pobol, does dim byd gwell ar ddydd Sul na phori'n hamddenol trwy bentwr o bapurau newydd, a chael darllen y proffil diweddara a sgrifennwyd gan eu hoff newyddiadurwr.

Rhaid cyfaddef y bydda i wrth fy modd yn darllen erthyglau craff Lynn Barber, brenhines newyddiaduraeth Llundain, wrth iddi lwyddo i gleisio ego sawl seren hunanbwysig, a hynny mewn oes lle mae PR yn teyrnasu, a holi herfeiddiol yn hanfod newyddiadurol sy'n prysur fynd ar ddifancoll.

Yn amlach na pheidio, mae hi'n sgwennu o safbwynt y drwgdybus i ddechrau, nes i'r sêr dan sylw brofi eu gwerth.

Sinigiaeth naturiol

Ar ôl gwylio'r cynhyrchiad An Education - sef addasiad ffilm Lone Scherfig o'i hunangofiant An Education, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni - cawn brofi'n union o ble y daw'r sinigiaeth naturiol hon am hud honedig y glitterati.

Tra'n ferch ysgol ddisglair yn Twickenham ddechrau'r Chwedegau cafodd Barber - unig blentyn rhieni ceidwadol - ei hudo'n llwyr gan ddyn hÅ·n hynod garismataidd.

Yn fuan ar ôl cwrdd â'r "David" deniadol a hynod drwsiadus hwn pallodd ei diddordeb yn ei gwaith cwrs, gan ddryllio breuddwyd fawr ei thad a'i hathrawon llym i'w hanfon i Rydychen.

Yn groes i'r disgwyl, fodd bynnag, roedd ei rhieni wrth eu boddau'n gweld eu merch ddeallus yn cael ei chipio o'i sicrwydd swbwrbaidd i fyd o gyffro bohemaidd gan iddynt hwythau hefyd gael eu swyno gan ei steil slic a'i gysylltiadau cymdeithasol.

Ffilm fywiog

Heb ddatgelu gormod o'r hanes, mi alla i gadarnhau fod y ffilm fywiog hon - sy'n gyfuniad o nostalgia trip i ddechrau'r Chwedegau â gwibdaith annisgwyl yn ôl i drallod torcalon cynharaf pob gwyliwr - yn llwyddo i gynnal y diddordeb o'r cychwyn cynta, a'n tywys i lefydd pur annisgwyl.

Diolch i ragarweiniad cerddorol sy'n taro'r nodyn cywir yn ystod y teitlau agoriadol, llwydda'r gyfarwyddwraig o Ddenmarc, Lone Scherfig, i sefydlu naws gynnes ac adleisiol o'r cyfnod eiconig dan sylw, gan gynnal y safon uchel gydol y ffilm.

Ceir myrdd o fanylion bychain i'n diddanu, o'r ffasiynau cyfareddol i gyfeiriadau hamddenol at lyfrau, cerddoriaeth a rhaglenni radio'r cyfnod - ond heb fynd dros ben llestri fel yn achos ambell gynhyrchiad diweddar arall.

Diolch am hynny, gan fod y stori sylfaenol yn cyffwrdd â thema oesol, sy ymhell o fod yn gyfyngedig i'r cyfnod dan sylw.

Ennyn cydymdeimlad

Mae Carey Mulligan, fel y "Jenny" ddiniwed yn llwyddo i ennill cydymdeimlad y gwyliwr gydol y ffilm, wrth iddi gwestiynu awdurdod ei thad a'i hathrawon "hen ffasiwn" a mwynhau ei phrofiadau cynharaf o gyffro dan oed, hyd at ei hagoriad llygad annisgwyl o greulon tua diwedd y ffilm.

Yn yr un modd, mae'r actor Americanaidd Peter Sarsgaard yn cyflwyno perfformiad tan gamp fel y Sais deniadol gan swyno'r gynulleidfa gymaint a'r cymeriadau a pheri inni rannu siom y ferch ifanc ar ôl darganfod iddi hi - a'i rheini - gael ei thwyllo'n llwyr ganddo.

A dweud y gwir, mae'r ffilm yn orlawn o berfformiadau cadarn, diolch i rannau sylweddol i'r actorion cynorthwyol sy'n cynnwys Emma Thompson ac Olivia Williams fel athrawesau ysbrydoledig Jenny.

Yn disgleirio

Mae Rosemund Pike hefyd yn disgleirio fel y Dolly Bird arwynebol sy'n aelod o griw amheus David, a Tom Conti yn cyfrannu dôs dda o hiwmor fel y tad lled Hitleraidd sy'r un mor hawdd ei drin ag yw ei ferch beniog.

Yn wir, daw y pwynt olaf hwn yn allweddol yn ystod y ffilm achos er bod Barber yn ferch aeddfed a hynod ddeallus o'i hoed fe syrthiodd am sarff a gymerodd fantais ohoni hi a'i charedigion. Pam yn union, Duw yn unig a ŵyr.

Ni chawn wybod beth fu ei hanes ef yn dilyn hyn, sydd mewn gwirionedd yn gwbl addas, gan y gorffennir ar nodyn gobeithiol.

Cadarnheir bod modd symud ymlaen ac adeiladu ar eiliadau tywyll anobaith gan esgor ar y llwyddiannau mwyaf ar ôl graddio o ysgol profiad.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.