±«Óãtv

Amelia

Golygfa o'r ffilm

17 Tachwedd 2009

PGTair seren

  • Y Sêr: Hilary Swank, Richard Gere, Ewan McGregor, Christopher Eccleston.
  • Cyfarwyddo: Mira Nair.
  • Sgrifennu: Ron Bass ac Anna Hamilton Phelan, yn seiliedig ar y llyfrau "East To the Dawn" gan Susan Butler a "The Sound of Wings" gan Mary S. Lovell.
  • Hyd: 111 munud

Arwres ar goll yn y cymylau

Adolygiad Lowri Haf Cooke.

Cyn mynd i weld Amelia, roeddwn yn rhyfeddu mai dyma'r biopic cyntaf am fywyd yr anturiaethwraig eiconig Amelia Earhart, y ferch gyntaf i hedfan dros yr Iwerydd ar ei phen ei hun - ac a fu farw'n ddeugain oed tra'n ceisio hedfan o amgylch y byd ym 1937.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Roedd hi'n ddynes ddewr ym myd y dynion. Yn wir, hi oedd arwres Americanaidd amlycaf ei chyfnod. Tybed na chafodd ei chyfoeswraig Katharine Hepburn - oedd wrth ei bodd yng nghwmni'r hedfanwr Howard Hughes - mo'i themtio i'w chofio ar seliwloid.

Mae'n debyg i Shirley MacLaine geisio am flynyddoedd llywio prosiect amdani - ond yn ofer.

Paham tybed na chafodd cynhyrchwyr Hollywood eu temtio gan y stori arwrol hon cyn hyn?

Ar ôl gweld y ffilm ei hun, ymddengys bod sawl eglurhad. Mae'n ddigon posib, er enghraifft, y byddai diwydiant mor batriarchaidd â'r byd ffilm Americanaidd yn anhapus i glodfori merch annibynnol oedd yn hidio dim am gonfensiynau'r cyfnod - gan gynnwys llwon ei phriodas i'w phrif noddwr, George Putnam.

Eglurhad arall posib yw bod duwiau'r diwydiant wedi dyfarnu mai Hilary Swank - enillydd dau Oscar am yr Actores Orau am ei pherfformiadau ysgubol yn Boys Don't Cry (1999) a Million Dollar Baby (2004) - fyddai'r ferch berffaith i'w phortreadu.

Ond dwi'n tybio efallai mai'r prif reswm na chofnodwyd hanes yr hedfanwraig tan i'r gyfarwyddwraig o'r India, Mira Nair, fachu ar y cyfle eleni yw bod y nodweddion cadarn hynny oedd yn ganolog i uchelgais Earhart - gan cynnwys ei natur benderfynol, hollol digyfaddawd yn ffinio ar yr unllygeidiog - ddim yn gadael llawer o le i bersonoliaeth ofnadwy o ddiddorol!

Dim gwendid

Does na ddim sôn am wendid yn ei chymeriad a dim gronyn o amheuaeth yn perthyn iddi - yn ôl sgript sy'n seiliedig ar ymchwil trylwyr iawn.

A chan fod y diweddglo trasig yn hysbys i bawb, mae'n rhyfedd nad oes mwy o emosiwn yn perthyn i'r stori - na chwaith unrhyw feirniadaeth o'i hagwedd ryfygus tuag at ddiogelwch ei hedfaniad olaf.

Mae Richard Gere ac Ewan McGregor yn ddigon difyr fel gŵr a chariad Earhart, a Christopher Eccleston yn ymddangos mewn rhan fechan fel Fred Noonan - llywiwr anlwcus y daith olaf - ond does dim amheuaeth mai sioe Hilary Swank yw Amelia.

Mae hi'n cyflwyno tour de force arall yn ei gyrfa gadarn, wrth bortreadu'r hedfanwraig yn ystod blynyddoedd mwyaf llwyddiannus ei gyrfa. Yn wir, mae hi'r un ffunud ag Earhart o'r hyn a welwn yn y pytiau archif sydd wedi'u plethu'n ddestlus i'r ffilm.

Fedra i ddim a beio'r actores am neidio at y cyfle i bortreadu merch mor flaengar ond y broblem sylfaenol yw nad ydy'r sgript yn caniatáu iddi wneud llawer mwy nag ymateb yn anghyffyrddus i unrhyw sefyllfa ddomestig, rhamanteiddio am y sêr a'r cymylau ac eiddigeddu rhyddid anifeiliaid gwyllt.

Heb ei hadnabod

Cyfeirir yn hamddenol at ei magwraeth ansefydlog a phroblemau yfed ei thad- ond ar y cyfan, chawn ni ddim dod i adnabod y ddynes y tu ôl i'r ddelwedd.

Ac o ystyried mai hanes anturiaethwraig eofn sydd yma does na ddim llawer o gynnwrf yn perthyn i'r golygfeydd yr awyr chwaith. Ceir nifer fawr o ddelweddau ysgubol o wastatiroedd yr Unol Daleithiau ac anialdiroedd yr Affrig ac Asia, i gyfeiliant cerddoriaeth gyfareddol Gabriel Yared.

Ond, yn anffodus, yr unig beth lwyddodd y golygfeydd hyn i'w wneud oedd fy atgoffa i o gynhyrchiad oedd yn cynnwys trac sain ysgubol gan yr un cyfansoddwr, sef The English Patient.

Roedd honno'n ffilm wefreiddiol gydag arwr carismataidd a rhamant epig yn ganolbwynt iddi a golygfeydd hedfan llawn cyffro ac emosiwn, wedi'i gosod tua'r un cyfnod ag Amelia.

yng Nghymru

Mae'n wir fod na ambell foment ysgafn yn y ffilm. Yn wir, ceir un olygfa ddigri iawn, wrth i Earhart lanio ym Mhorth Tywyn ar achlysur torri'i record gyntaf a drysu'n lân wrth glywed y trigolion lleol yn ei chroesawu â chytgan o Calon Lân yn lle'r croeso Gwyddelig roedd hi wedi'i ddisgwyl.

Ar y cyfan, fodd bynnag, dyma ffilm sydd yn cymeryd ei hun lawer gormod o ddifri , gan olygu bod Amelia - serch ei thestun trydanol, a'i harwres arloesol - yn gynhyrchiad siomedig o ddiflas.


Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.