I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
"Mae Yr Ods yn feistri ar gymysgu gitar indie gyda phop modern gan greu caneuon bachog a chofiadwy." (Dyl Mei)
Mae gen i ebost o Ionawr 2007 gan Griff Lynch sy'n cyflwyno'r band trwy ddweud, "'Da ni wedi recordio yr holl ganeuon ar laptops yn Pantycelyn gan ddau foi sy'n gneud dim gwaith o gwbwl. Mae yr Ods yn mynd i chwalu dy ben, sbeitio dy dad a rhamantu dy fam, BYDD BAROD! (plis chwaraewch y caneuon ma!!)".
Rhyw flwyddyn wedyn recordiodd y band sesiwn i raglen Huw Stephens. John Lawrence oedd cynhyrchydd y sesiwn, ac ma 'na dair cân wych arni, yn cynnwys yr hit radio Gobeithio Heno!
Mae'r band wedi rhyddhau dwy sengl - Defnyddio a Fel Hyn Am Byth - ond dydy hynny ddim yn gwneud tegwch hefo'u prysurdeb nhw yn y dair blynedd diwetha. Ma nhw di gigio'n gyson, a di gyrru dwn i ddim faint o ganeuon draw i ni - y cyfan yn wych, a phob un yn wahanol. Tecno, pop, roc, a hyd yn oed fersiwn o gân Lily Allen, The Fear!
A sôn am recordio caneuon pobol eraill, mae'r Ods hefyd wedi recordio cyfyr o un o fy hoff ganeuon i erioed, a hynny i gyfres Geraint Jarman ar C2 - Tracsuit Gwyrdd.
Ar ôl ennill Gwobr Roc a Phop ±«Óãtv Radio Cymru am y band newydd gorau yn 2009, chwaraeodd y band ar lwyfan y "Queens Head" yng Ngŵyl Glastonbury, yn ogystal â pherfformio yng ngwyliau Wakestock a Sŵn.
Yn 2010 rhyddhaodd y band yr albwm, Yr Ods oedd yn cynnwys caneuon melodaidd a chofiadwy fel 'Cofio Chdi o'r Ysgol' a 'Nid Teledu oedd y Bai'. Enillodd y gân, 'Fel Hyn am Byth' Wobr Roc a Phop ±«Óãtv Radio Cymru am y gân orau. Yn 2011 enillodd y band Wobr RAP Radio Cymru arall, y tro hwn fel 'Band y Flwyddyn'. Yn ogystal enillodd yr Ods Wobr am EP Gorau 2010 yng Ngwobrau Cylchgrawn Y Selar. Dilynwyd hyn gydag albym arall yn Nhachwedd 2011, Troi a Throsi
Ond dwi am gloi hefo geiriau rhywun arall am Yr Ods. Dyma ddywedodd Emily Eavis, trefnydd gŵyl Glastonbury, amdanyn nhw ar ôl eu gweld nhw'n fyw yn yr ŵyl: "Ma nhw'n ifanc, rhywle rhwng y Super Furry Animals a'r Arctic Monkeys, ac ma ganddyn nhw ganeuon pop gwych, llawn egni. Os ewch chi i'w gwylio nhw, dwi'n gaddo, newch chi ddim gadael tan y diwedd un!"
Lisa Gwilym
Newyddion
Pwy fydd bandiau 2008?
2 Ionawr, 2008
'Tips' ar pa fandiau ddylech chi wylio allan amdanyn nhw yn 2008.
Sesiynau
Adolygiadau
Eraill
Gweler Hefyd
Cysylltiadau'r ±«Óãtv
Cysylltiadau Rhyngrwyd
±«Óãtv Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.