±«Óãtv

Race Horses

Race Horses

Race Horses (Radio Luxembourg gynt) yw un o fandiau mwyaf llwyddiannus y sîn roc Gymraeg cyfoes. Maent yn gewri o felodïau gwyrthiol yn ogystal â chrysau seicadelig. Maen nhw'n dilyn trywydd pop arbrofol seicadelig ac yn feistri ar greu harmonïau lleisiol.

Aelodau

  • Meilyr Jones: Llais a bâs
- Alun Gaffey: Gitar
- Dylan Hughes: Allweddellau 
- Gwion Llewelyn: Drymiwr

Sefydlwyd Radio Luxembourg yn 2005 gan rai o gyn aelodau Mozz. Roedd y gerddoriaeth yn ddatblygiad gwahanol i Mozz wrth iddynt ddilyn trywydd pop arbrofol seicadelig. Roedd dylanwad Euros Childs o'r Gorkys yn amlwg i ddechrau a gynhyrchodd senglau ac EPs y gr?p gan hefyd gynnig i rai o'r aelodau i berfformio yn ei fand, Euros Childs, am sbel.

Gwnaeth llafurio'r band ddwyn ffrwyth ar ôl rhyddhad ei sengl P?er Y Fflwer/Lisa Magic a Porva, a brofodd yn arwyddgan i'r band am rai blynyddoedd. Cafodd yr ail sengl, Os Chi'n Lladd Cindy, ei ryddhau ar finyl 7 modfedd a rhoddodd dimensiwn newydd a gwobr RAP ±«Óãtv Radio Cymru am Sengl y Flwyddyn.

Nesaf, rhyddhawyd yr EP anhygoel Diwrnod Efo'r Anifeiliaid. Roedd hi'n amlwg o'r foment hon fod y band am fynd yn ei blaen yn y byd cerddorol. Roedd harmonïau'n llifo dros felodïau hapus ac roedd gwaith celf yr EP, gan Ruth Jen, yn denu sylw ac yn dangos proffesiynoldeb y band.

Wedi hyn roedd cyfnod prysur yn disgwyl y band wrth iddynt (cymrwch anadl) perfformio yn Glastonbury, cael eu dewis i gynrychioli Cymru yn Proms Trydanol y ±«Óãtv, rhyddhau'r EP Where is Dennis?/Cartoon Cariad, cymryd rhan mewn taith Brydeinig ±«Óãtv Introducing a theithio o amgylch Cymru mewn taith a drefnwyd gan MaesB yn ogystal â pherfformio mewn nifer o wyliau a gigiau eraill yng Nghymru, Lloegr ac Efrog Newydd.

Ar ôl arwyddo i label yn Hydref 2008, daeth i'r amlwg yn 2009 nad oedd hi bellach yn bosib defnyddio'r enw Radio Luxembourg oherwydd y posibilrwydd o broblem gyfreithiol wrth rannu'r enw gyda gorsaf radio enwog ac felly penderfynwyd newid eu henw i Race Horses. Dathlwyd ei henw newydd gyda drymiwr newydd a rhyddhad ei sengl dwy ochr A hir ddisgwyliedig yn Ebrill 2009.

Rhyddhaodd y band sawl sengl yn 2011 yn cynnwys, Pony, Marged wedi Blino,Grangetown a Benidorm. Maent yn ffynnu yn fyw ac yn berfformwyr o radd flaenaf.

Newyddion

Race Horses - Cake/Cacen Mamgu

Sengl newydd 'Race Horses'

1 Mehefin 2009

Daeth Dyl a Mei o'r Race Horses i fewn i gael sgwrs gyda Magi am y sengl newydd.

Sengl newydd 'Race Horses'

1 Mehefin 2009

Daeth Dyl a Mei o'r Race Horses i fewn i gael sgwrs gyda Magi am y sengl newydd.

Teithiau'r Gwanwyn

15 Ebrill 2008

Radio Lux, MC Mabon, Swci a mwy!

Adolygiadau

ICA, Llundain

6 Mawrth 2008

Gig yn Llundain gyda Radio Luxembourg, Genod Droog, MC Mabon, Mr Huw a mwy.

Sion Llwyd yn adolygu gig 'Stafell fyw

31 Ionawr 2008

Y cerddor Sion Llwyd yn adolygu y cyntaf mewn cyfres o gigs gan Gymdeithas yr Iaith a Siarc Marw.

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

±«Óãtv Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.