±«Óãtv

Maffia Mr Huws

Maffia Mr Huws

Bois o Fethesda yn byw ac yn bod y bywyd roc a rôl. Llun: .

Dwi'n siwr bod rhywbeth yn y dŵr ym Methesda.

Dyma chi ardal sydd wedi cynhyrchu nifer o enwogion y byd roc yng Nghymru: Celt, Jackie Williams, Lleuwen Steffan a llawer mwy, ond y mwyaf adnabyddus mae'n siwr gen i yw Maffia Mr Huws, neu Maffia fel mae pawb yn eu adnabod nhw heddiw.

Mae'r stori'n dechrau nôl ar ddiwedd y 70au pan ddaeth y brodyr Sion a Gwyn Jones at ei gilydd gyda Deiniol Morris a Guto Orwig i ffurfio grŵp o'r enw Weiran Bigog. Yna ym 1981 ymunodd Hefin Huws yn lle Guto Orwig, newidwyd yr enw, a ganwyd Maffia Mr Hughes.

Bu'r band yn gweithio'n galed o gwmpas Bethesda ac yna ym 1982 fe recordiodd Maffia y gân Ffrindiau ar gyfer record hir Sesiwn Sosban (Sosban oedd rhaglen roc Radio Cymru ar y pryd, yn darlledu bob bore Sadwrn). Fe ddaeth hi'n amlwg bod dyfodol mawr i'r band a chyn hir dyma nhw'n cyhoeddi eu record sengl gyntaf, Gitar yn y To, hefyd ym 1982.

Roedd y bois yn byw gyda'i gilydd mewn bwthyn ym Methesda - yn byw'r bywyd roc a rôl ac yn gweithio'n rhyfeddol o galed, yn perfformio mewn mwy na 100 o gigs y flwyddyn. Roedd gan y band ddilyniant anhygoel gyda'r "Maffia Maniacs" yn dilyn y band i bob man ac yn gofyn yn gyson am glywed eu caneuon ar y radio.

Fe fu'r band yn fuddugol ddwywaith yn Noson Gwobrwyo Cylchgrawn Sgrech wrth ennill y wobr am y record orau, a'r anrhydedd o ennill tlws prif grwp roc Cymru ym 1983. Nhw aeth â'r wobr am brif grwp roc y flwyddyn eto ym 1984.

Yng nghanol yr wythdegau fe ymunodd Alan Edwards â'r band i chwarae'r allweddellau, ond yn anffodus, ym 1987, fe laddwyd Alan mewn damwain car yn Llydaw. Ym 1986 bu'r band yn teithio gyda Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr ar "Taith y Carcharorion". Roedd y daith yn un o uchafbwyntiau'r byd roc y flwyddyn honno gan gadarnhau perthynas agos iawn rhwng y band a'r Cynganeddwyr.

Wedi i Hefin Huws benderfynu mynd i fyw i Lundain fe gariodd Maffia i fynd gyda Neil Williams yn canu, ac yn achlysurol fe fyddai John Doyle, Martin Beatty, Kevin Roberts a Les Morrison yn dod i'r adwy. Chwaraeodd y band yng ngŵyl y Faenol yn 2000 ac eto yn 2008.

Mae Maffia wedi cyhoeddi naw record a chasét, a CD o oreuon Maffia yn 2008. Y peth pwysig i'w gofio am gyfraniad Maffia yw mai dyma grŵp o fois go iawn oedd yn canu ac yn cyfansoddi o'r galon am bethau oedd o bwys iddyn nhw ac i bobl ifanc Cymru. Wedi'r cwbwl, dyma gyfnod Thatcher a Reagan pan oedd digon o ddeunydd ar gyfer caneuon di-ri.

Mewn cyfnod pan fu nifer o grwpiau adnabyddus Cymru yn deillio o'r colegau neu'r cyfryngau roedd Maffia'n wahanol - bois o Fethesda yn byw ac yn bod y bywyd roc a rôl go iawn ac mae hynny'n dangos yn y caneuon gwych.

Dyma ni bellach yn 2009 a dyw'r stori ddim ar ben eto. Mae Maffia wedi bod nôl yn y stiwdio, felly pwy a ŵyr, mae'n bosib bod mwy i ddod eto gan un o'r grwpiau roc pwysicaf a welwyd erioed yn y byd roc yng Nghymru. Gwyliwch y gofod...

Richard Rees

Adolygiadau

Adolygiad CD Maffia Mr Huws

08 Medi 2008

Beth yw barn yr adolygwyr am Maffia Mr Huws - Croniclau'r Bwthyn?

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

±«Óãtv Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.