±«Óãtv

Explore the ±«Óãtv
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

±«Óãtv ±«Óãtvpage
±«Óãtv Cymru
±«Óãtv Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

±«Óãtv Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Drenewydd
Gwendoline and Margaret Davies gyda'i athrawes Jane Blaker, c.1895-8 Cyfraniad chwiorydd Gregynog i Gymru
Mae arddangosfa arbennig am fywyd y Chwiorydd Davies o Gregynog yn agor yn Amgueddfa Cymru Caerdydd ar 14 Gorffennaf 2007 ac yn rhedeg tan 6 Ionawr 2008.

I ddathlu canmlwyddiant Amgueddfa Cymru, caiff arddangosfa bwysig sy'n edrych ar fywydau hynod y Chwiorydd Davies, Gwendoline (1882-1951) a Margaret (1884-1963) ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Cronnodd y ddwy chwaer eithriadol hyn un o gasgliadau celf mwyaf arwyddocaol yr 20fed ganrif, a nhw oedd y cyfranwyr mwyaf at gasgliadau'r Amgueddfa yn ystod ei chan mlynedd gyntaf.

Roedd y chwiorydd yn wyresau i'r diwydiannwr enwog, David Davies Llandinam (1818-1890), dyn oedd wedi gwneud ei ffortiwn ei hun drwy'r diwydiant glo. Roedd y teulu'n Anghydffurfwyr blaenllaw o egwyddor; ni briododd y chwiorydd ac arhosodd y ddwy yn llwyrymwrthodwyr ac yn sabothwyr llym gydol eu hoes. Cyfrannodd y ddwy'n hael at elusennau a sefydliadau diwylliannol Cymru gan brynu Neuadd Gregynog yn Sir Faldwyn ym 1920 er mwyn creu canolfan i'r celfyddydau a man i drin a thrafod materion cymdeithasol.

Mae gwybodaeth newydd gyffrous yn awgrymu bod y chwiorydd yn wybodus iawn am hanes celf. Bydd yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn trafod sut aethant ati i gronni eu casgliad ac yn ceisio gosod Gwendoline a Margaret yng nghyd-destun ehangach eu bywydau a'u hamrywiol diddordebau.

Ymysg y gweithiau yn yr arddangosfa bydd La Parisienne enwog Renoir, Eglwys Gadeiriol Rouen Monet, tri o'i olygfeydd o Fenis, Y Gusan gan Rodin a gweithiau eraill gan Manet a Pisarro. Mae'r casgliad yn cynnwys gweithiau eiconaidd eraill fel tri o luniau Monet o lilïau dŵr, Glaw - Auvers van Gogh, gweithiau gan Millet, Daumier a Carrière yn ogystal â gweithiau'r Hen Feistri a pheintiadau Prydeinig modern o eiddo'r chwiorydd.

Dywedodd Oliver Fairclough, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru a churadur yr arddangosfa: "Yn aml iawn, mae pobl yn gweld y casgliad celf gwych a adawodd Gwendoline a Margaret Davies i'r amgueddfa ar ei ben ei hyn. Mae'r arddangosfa'n gosod y casgliad wrth galon dyngaredd diwylliannol ehangach y chwiorydd. Mae'n dangos sut darparodd y gweithiau celf gefndir ysbrydoledig i drafod y problemau cymdeithasol ac economaidd yng Ngregynog rhwng y ddau Ryfel Byd."

Bydd y llyfr Cyfoeth, Celf a Chydwybod: Llafur Cariad Chwiorydd Gregynog, yn cyd-fynd â'r arddangosfa a bydd yn cynnwys ffotograffau o gasgliadau preifat y teulu a gwaith ymchwil newydd gan guraduron Amgueddfa Cymru.

  • Mwy am gasgliadau a bywyd y ddwy chwaer

  • 'Berthe Morisot, Woman and Child in a Meadow at Bougival 1882'
    next page
    1Ìý 2Ìý 3Ìý

    'Berthe Morisot, Woman and Child in a Meadow at Bougival, 1882'
    Hawlfraint: Amgueddfa Genedlaethol Cymru

    Trefi
    Radio Cymru
    Lluniau
    Digwyddiadau


    About the ±«Óãtv | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý