±«Óãtv

Pennar Davies

Pennar Davies

Bardd, ysgolhaig, nofelydd a diwinydd.

Ysgolhaig a llenor amlochrog ac eang iawn ei orwelion oedd Pennar Davies. Ysgrifennodd gerddi, storïau byrion, nofelau a beirniadaethau llenyddol a diwinyddol.

Y ffydd Gristnogol oedd wrth wraidd ei waith, a defnyddiodd ei dalentau i ymchwilio a myfyrio drosti, yn aml mewn modd anuniongred. Roedd rhywioldeb, hefyd, yn bwysig iddo ac yn ei farddoniaeth a'i rhyddiaith fel ei gilydd roedd yn ymdrin ag eros yn ogystal ag agape.

Roedd yn ddyn agos-atoch, tawel ei ffordd gyda gwên fawr bob tro, ac roedd ei ddeallusrwydd a'i ewyllys da'n amlwg mewn pob sgwrs a gohebiaeth.

Gwreiddiau yn y Cymoedd

Ganwyd William Davies ym 1911 yn Aberpennar, pentref glofaol a roddodd yr enw Pennar iddo. Roedd ei dad yn löwr ac yn Gymro a'i fam yn ddi-Gymraeg, felly fe'i magwyd ar aelwyd Saesneg ei hiaith; dysgodd y Gymraeg yn ddyn ifanc.

Pan ddechreuodd farddoni yn ystod y pedwar degau yn Saesneg yr ysgrifennodd, gan ddefnyddio yr enw Davies Aberpennar, a dangosai gydymdeimlad mawr â'i gydoeswyr oedd yn gorfod llenydda yn yr iaith honno.

Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a graddiodd mewn Lladin ym 1932 a Saesneg ym 1933. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholegau Balliol a Mansfield yn Rhydychen, ac yna ym Mhrifysgol Yale.

Gyrfa grefyddol

Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yng Nghaerdydd o 1943 ac yna yn Athro yng Ngholegau Bala-Bangor ac Aberhonddu. Ym 1952 fe'i penodwyd yn Brifathro Coleg Coffa, Aberhonddu, a parhaodd yn y swydd honno pan symudwyd y Coleg i Abertawe.

Priododd â ffoadures o'r Almaen; un o'i feibion yw Meirion Pennar.

Dechreuodd farddoni'n y Gymraeg tua 1948, o dan ddylanwad Cylch Cadwgan, grwp bychan o lenorion a oedd yn arfer cyfarfod yng nghartref ei gyfaill J.Gwyn Griffiths yn y Rhondda; ceir nifer o'i gerddi cynnar yn yr antholeg Cerddi Cadwgan (1953).

Bardd a nofelydd

Cyhoeddodd bum cyfrol o gerddi, sef Cinio'r Cythraul (1946), Naw Wfft (1957), Yr Efrydd o Lyn Cynon (1961), Y Tlws yn y Lotws (1971) a Llef (1987).

Mae'r cyfrolau hyn yn cynnwys caneuon serch tyner dros ben heb fod yn sentimental, yn ogystal â cherddi crefyddol sy'n gyforiog o ddelweddaeth synhwyrus. Un o'u nodweddion yw ei allu i grybwyll pethau hyddysg, esoterig hyd yn oed, ochr-yn-ochr â phethau pob dydd.

Mae'r un cymysgedd o dynerwch a symbolaeth fytholegol yn nodweddu rhyddiaith Pennar Davies.

Hunan-ymchwil

Dyddiadur ysbrydol yw Cudd fy Meia (1957), cyfrol sy'n llawn o hunan-ymchwiliad digymrodedd.

Astudiaeth o seicoleg diwygiwr crefyddol yw'r nofel Anadl o'r Ucheldir (1958), tra bod Caregl Nwyf yn gasgliad o straeon a Meibion Darogan (1968) yn parhau ei hunan-ymchwiliad a'i ddiddordeb mewn symbolaeth.

Yr aeddfetaf o'r gwethiau hyn yw Mabinogi Mwys (1979), portread o briodas gŵr ifanc yng nghyd-destun y Gymru gyfoes.

Mae Gwas y Gwaredwr (1991) yn cwblhau triawd o nofelau sy'n delio â chrefydd ddiwygiadol. Storïau sydd yn y gyfrol Llais y Durtur (1985).

Ymhlith gweithiau diwinyddol Pennar Davies mae Y Brenin Alltud (1974) a Rhwng Chwedl a Chredo (1966).

Bu farw yr awdur yn Abertawe ym 1996.

Meic Stephens


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan ±«Óãtv Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.