±«Óãtv

Joe Calzaghe

Joe Calzaghe

Dyma un o enwau mawr bocsio, y 'Ddraig Eidalaidd'. Fe frwydrodd Joe Calzaghe i gyrraedd y brig yn 1997 gyda buddugoliaeth mawr yn erbyn Chris Eubank a chyflawni breuddwyd oes. Mae'n cadw'r record syfrdanol o beidio colli un gornest yn ei yrfa hir.

Dechrau'n Llundain

Er iddo gael ei eni yn Llundain, fe fagwyd Joe yng Nghymru a chadarnhawyd mai Cymro ydy o pan enillodd wobr Personoliaeth Chwaraeon y ±«Óãtv yn 2008, dim ond yr ail Gymro i ennill y gamp a hynny wedi cyfnod o agos i hanner canrif ers buddugoliaeth David Broome yn 1960.

Ganwyd ef ar Fawrth 23, 1972 yn Ysbyty Hammersmith, symudodd teulu Joe i Drecelyn pan oedd o'n ddwy oed a symud yn ôl i wlad enedigol ei fam. Dan anogaeth ei dad o Eidalwr, Enzo, dangosodd Joe addewid ar y cae pêl-droed a'r cylch bocsio yn ifanc, ond dewisodd focsio ar draul pêl-droed yn ddiweddarach.

Gan i Joe gael ei eni yn Lloegr a'i fagu yng Nghymru, bod ei fam yn Gymraes a'i dad yn Eidalwr, mae'r cwestiwn wedi'i ofyn sawl gwaith am genedligrwydd Joe ac fe atebodd hyn mewn cyfweliad yn 2008:

"Dw i'n ystyried fy hun yn Brydeiniwr ond mae gen i berthynas arbennig â phobl Cymru gan eu bod wedi fy nghefnogi'n ffyddlon ar hyd fy ngyrfa. Ond er hyn dw i wastad wedi gwerthfawrogi pêl-droed yr Eidal, dw i'n cefnogi Juventus a'r Eidal yng Nghwpan y Byd."

Bachgen yn Bocsio

Joe yn ennill Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn

Dan ddylanwad ei dad, fe wisgodd Joe ei fenyg bocsio am y tro cyntaf yn naw oed, er mi ddaliodd Joe ei afael yn ei freuddwydion pêl-droed tan ei arddegau. Er ei fod yn teimlo bod disgyblion yn pigo arno ar sail ei dalent chwaraeon, daliodd ati a mynd ymlaen i gystadlu ac ennill Pencampwriaethau bocsio Bechgyn Ysgol Prydain.

Ar ôl rhyw 120 o ornestau amatur, fe enillodd Joe bedwar teitl ABA ac yna 3 teitl Prydeinig yn olynol o 1991 i 1993. Ef ydy'r ail focsiwr yn unig mewn hanes i sicrhau'r beltiau hyn yn ysgafn, canol ysgafn a chanol trwm.

Gan gadw ei dad fel rheolwr/hyfforddwr, symudodd Joe o focsio amatur i'r adran broffesiynol yn 1993 gan wneud ei ddebut proffesiynol ym Mharc yr Arfau o flaen gornest Lewis-Bruno.

Erbyn Mehefin 1995 roedd Joe wedi ennill naw gornest allan o naw a chydnabyddwyd y fath record gyda gwobr Bocsiwr Ifanc y Flwyddyn gan y Gymdeithas Focsio Broffesiynol. Fe aeth Joe at dîm rheoli Frank Warren yn 1996 a chael ei groesawu gan Warren gyda'r geiriau bocsiwr y mileniwm newydd ac fe ddaeth ei funud fawr yn yr ornest yn erbyn Chris Eubank ar 11 Hydref, 1997 am Goron y Byd.

I Eubank dyma oedd y cyfle olaf ond i Joe ar y llaw arall roedd ei fuddugoliaeth bendant yn arwydd efallai o lwyddiannau i ddod.

Y dyn sy'n methu colli

Ond fe fu pethau'n anodd i Joe wedyn, er iddo ennill ei ornestau, oherwydd anafiadau i'w ddwylo. Ond fe adenillodd ei safon mewn buddugoliaeth 5 rownd yn erbyn Moar Sheika yn Awst 2000 ac ers hynny y mae wedi amddiffyn ei deitl yn erbyn Will McIntyre, Mario Velt, Richie Woodhall a Tocker Pudwill.

Yn dilyn ail rownd ffrwydrol yn erbyn Byron Mitchel yn Mehefin 2003 aeth Calzaghe yn nes at ornest fawr ei freuddwydion yn erbyn Bernard Hopkins.

Yn Ebrill 2007 daeth Joe Calzaghe yn gyfartal gyda Record Bernard Hopkins a Larry Holmes o 20 Amddiffyniad o Goron Pwysau Uwch Ganol y Byd.

Ac ym mis Tachwedd 2007, coronwyd Calzaghe yn bencampwr WBA, WBC a WBO uwch ganol y byd wedi iddo drechu Mikkel Kessler yn Stadiwm y Mileniwm.

Cyrraedd Pinacl

Dwi wedi cyflawni pob nod wnes i osod i fy hun -does na run mynydd arall ar ôl i mi ddringo.

Joe Calzaghe

Wythnosau yn unig wedi'r ornest fe gafodd Calzaghe ei enwi fel Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn ±«Óãtv Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol a'r trydydd tro yn ei yrfa.

Diwrnodau yn ddiweddarach fe gafodd y bocsiwr ei gydnabyddiaeth haeddiannol pan dderbyniodd wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y ±«Óãtv ar ôl deng mlynedd ar y brig.

Ac yn ei ornest gyntaf yn yr UDA ar 19 Ebrill 2008 fe hawliodd y Cymro ei le ymhlith anfarwolion y byd bocsio drwy guro Bernard Hopkins wedi ornest ddramatig a dadleuol yn Las Vegas.

Ac ym mis Tachwedd 2008 fe barhaodd gyda'i record ddilychwin ar ôl iddo chwalu un o enwau mwyaf y gamp - Roy Jones Jr mewn gornest waedlyd yn Madison Square Garden.

Amser i ddweud ffarwel

Ar ddechrau Chwefror 2009, cyhoeddodd Joe y byddai'n ffarwelio gyda'r byd bocsio ac yn ymddeol gyda'i record rhyfeddol o fod yr unig focsiwr o Brydain i beidio colli un allan o'r 46 gornest broffesiynol ac yn ymuno yn Neuadd yr Anfarwolion yng nghwmni Rocky Marciano, Lennox Lewis a Marvin Hagler.

Yn 36 oed, roedd yn teimlo ei fod wedi cyflawni popeth ag y dymunai ac roedd hi'n amser i roi'r ffidl yn y to. Roedd ei deulu, yn arbennig ei feibion, yn poeni am ei iechyd yn bocsio gan fod nifer o focswyr yn dioddef yn enbyd o sgil-effeithiau'r ergydion wedi ymddeol fel Mohammed Ali. Anrhydeddwyd ef gyda CBE ac OBE ac ers hynny, mae wedi cadw'n weithgar gyda'i brosiectau busnes amrywiol a chymryd rhan yn 'Strictly Come Dancing' y ±«Óãtv. Ond roedd ei ddawnsio yn dipyn llai gosgeiddig na'i focsio!

Dechreuodd berthynas gyda'i bartner dawnsio, Kristina Rhianoff ac roedd ei enw yn y papurau tabloid ar ddiwedd 2009 am ddefnyddio'r cyffur cocaine. Fe wnaeth e gyfaddef yn Mai 2010 ei fod yn flin ei fod wedi defnyddio'r cyffur a beirniadodd y News of the World am ei dacteg o'i rwydo.

Ar ddiwedd 2010 cyhoeddodd ei fod yn bwriadu troi'n actor ac yn cael gwersi actio yn Llundain.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.