±«Óãtv

Charlotte Church

Charlotte Church

Y seren o blentyn sydd bellach yn fenyw ac sy'n awyddus i greu delwedd newydd go wahanol iddi'i hun.

Llais Angel

Ganwyd Charlotte ar y 21 Chwefror 1986 yn Llandaf, Caerdydd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Howell's Llandaf lle dangosodd dalent fel cantores ifanc.

Fe ddaeth cyfle mawr Charlotte yn 1997 ar raglen dalent deledu Michael Barryomre ac roedd hi yno i gyflwyno'i modryb. Ychydig fariau o Pie Jesu yn ddiweddarach ac roedd y ferch un ar ddeg oed o Gaerdydd yn enw cerddorol o bwys.

Hi oedd yr artist ieuengaf erioed i fynd i frig y siart glasurol pan ryddhawyd ei halbwm gyntaf 'Voice of an Angel' yn 1998. Yn fuan iawn, roedd hi'n teithio'r byd ac yn canu i deuluoedd Brenhinol, Arlywyddion a'r Pab.

Ond wrth iddi dyfu'n hÅ·n, soniodd am ei hawydd i newid cyfeiriad ei cherddoriaeth. Er ei bod yn rhyddhau cerddoriaeth glasurol, mae'n ceisio ymestyn ei gorwelion cerddorol.

Troi at fyd pop

Recordiodd ddeuawd efo Wyclef Jean ac ymddangos efo Atomic Kitten, Steps ac A1 yn 'Showtime' yn y Stadiwm yng Nghaerdydd.

Fe gafodd hi lwyddiant gyda'r gân ddawns 'The Opera Song' mewn cydweithrediad â Jurgen Vries.

Mae hi wedi ymddangos fel gwestai ac fel cyflwynydd ar y rhaglen Have I got News For You ac wedi gwneud ffilm I'll Be There efo Craig Ferguson.

±Ê²¹°ù³Ùï´Ç

Dydy tyfu fyny yn wyneb y cyhoedd ddim wedi bod yn hawdd iddi hi gyda'r holl ddiddordeb cyfryngol yn ei bywyd personol a phreifat a llawer o sylw i'r holl ddadleuon teuluol.

Gorfu i'r deithwraig Charlotte sefyll ei harholiad TGAU Daearyddiaeth am bedwar o'r gloch y bore yn Llysgenhadaeth Prydain yn Washington DC sef yr un pryd â'i dosbarth adref yng Nghaerdydd. Er hynny, llwyddodd i gael Gradd A.

Cafodd y problemau yn ei pherthynas â'i chyn-gariad Steven Johnson eu cyhoeddi mewn papurau newydd ar hyd y wlad, ac mae Charlotte Church bellach yn wyneb cyfarwydd mewn chylchgronau adloniant tebyg i Heat.

Bu Charlotte Church yn cael mwy o sylw am ei bywyd personol yn partïo, ei hoffter am 'Cheeky Vimto', a'i harferion siopa o amgylch dinas Caerdydd, nag am ei chanu am gyfnod.

Ym mis Mawrth 2005 fe gyhoeddodd ei bod mewn perthynas â'r chwaraewr rygbi i'r Gweilch Nedd-Tawe a thîm Cymru, Gavin Henson, a oedd yn aelod o'r tîm buddugol a enillodd y Gamp Lawn. Mae gan Charlotte a Gavin ddau o blant, Ruby a Dexter.

Bywyd newydd

Roedd gan Charlotte Church ei rhaglen sgwrsio ei hun, The Charlotte Church Show ar Channel 4 ble roedd yn sgwrsio ac yn canu gydag enwogion eraill. Ynddangosodd hefyd fel beirniad ar raglen ±«Óãtv1 Over the Rainbow.

Rhyddhaodd dau albwm pop, 'Tissues and Issues' a 'Back to Scratch' ond nid oedd y gwaith mor llwyddiannus â'i chynigion clasurol.

Gwahanodd Charlotte a Gavin yn 2010 ac mae hi mewn perthynas bellach gyda'r Cerddor, Jonathan Powell, bu'n cydweithio gyda'r gantores ar brosiectau cerdd amrywiol.


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan ±«Óãtv Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

±«Óãtv iD

Llywio drwy’r ±«Óãtv

±«Óãtv © 2014 Nid yw'r ±«Óãtv yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.